Search site


Aderyn Rhiannon

11/05/2017 12:47

Mae sioe unigryw sy’n cyfuno barddoniaeth a cherddoriaeth, a hynny mewn tair iaith, yn cael ei pherfformio yng Nghlwb Cymry Llundain nos Sadwrn nesaf ac yn Neuadd Ogwen y nos Wener ganlynol.

Mae ‘Wales Bird: Aderyn Rhiannon’ yn astudiaeth o gyfraniad bardd enwocaf Cymru, Dylan Thomas, ac wedi tyfu o sioe ‘Dylan ar Daith’ a berfformiwyd yn 2013-14 fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas.

Dau o sêr y sioe ydy dau o rapwyr enwocaf Cymru, sef Mr Phormula (Ed Holden) ac Aneirin Karadog, sef prifardd Eisteddfod Y Fenni 2016 wrth gwrs.

Y bardd bît cyntaf

Mae’r sioe yn cylchdroi o gwmpas darlith gan Yr Athro Daniel Williams, sy’n arbenigo yng ngwaith Dylan Thomas, ac sydd hefyd yn sacsoffonydd amlwg gyda’r grŵp jazz, Burum.

Mae’r ddarlith yn canolbwyntio ar deithiau Dylan Thomas i America, a’i ddylanwad ar feirdd enwog fel Allen Ginsberg a Jack Kerouac gan awgrymu mai Thomas oedd y bardd bît cyntaf.

Wedi plethu yn y ddarlith mae darlleniadau barddoniaeth mewn tair iaith – Cymraeg, Saesneg a Llydaweg - gan y beirdd Zaru Johnson, Martin Daws ac Aneirin Karadog, ynghyd â chyfeiliant cerddorol bas dwbwl Huw V. Williams a bîtbocstio anhygoel Mr Phormula.

“Mae’r cyfan yn codi o sioe Dylan ar Daith i nodi canmlwyddiant Dylan Thomas” eglura Aneirin Karadog.

“Cofnod o hwn ydy llyfryn a recordiad o’r sioe a wnaethpwyd gan y cynhyrchydd John Lawrence. Fe wnaethom ni berfformio’r sioe honno ym Mhrifysgolion Cymru a phenllanw’r peth oedd perfformio yn Efrog Newydd yng Ngŵyl Lenyddiaeth Ryngwladol PEN.”

Awyrgylch

Yn ôl Aneirin y nod ydy ychwanegu lliw ac awyrgylch i’r ddarlith gyda’r farddoniaeth a cherddoriaeth, yn ogystal ag elfennau gweledol, ac mae Daniel Williams yn ymuno a hynny trwy estyn ei sacs i jamio tua diwedd y perfformiad.

Yn ogystal â’r perfformiad yng Nghlwb Cymry Llundain gyda’r hwyr ar 14 Mai, bydd cyfle i weld y sioe y prynhawn hwnnw yn yr Half Moon yn Llundain a hefyd yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar nos Wener 20 Mai.