Search site


Alffa sydd flaena’

16/08/2017 14:05

Rydan ni’n hoffi meddwl ein bod ni’n gallu adnabod talent a photensial yma yn Y Selar.

A theg dweud ein bod ni’n falch iawn o weld ein ffydd ym mhotensial Alffa’n cael ei ategu wrth i’r grŵp ifanc o Lanrug gipio teitl Brwydr y Bandiau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ddydd Mercher diwethaf.

Y gwir amdani ydy bod Alffa ar radar Y Selar ers amser maith. Fe wnaethon ni eu bwcio nhw ar gyfer leinyp llwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd yn Y Fflint llynedd, a chymaint oedd yr argraff a grëwyd ganddyn nhw bryd hynny nes bod rhaid i ni eu dewis ar gyfer eitem ‘Ti Di Clywed’ y rhifyn canlynol o’r Selar yn Awst 2016.

Ers hynny rydan ni wedi bod yn cadw golwg agos ar eu datblygiad wrth iddyn nhw ryddhau EP cyntaf yn yr hydref a gigio’n rheolaidd gan fireinio eu crefft.

Y gwir plaen amdani ydy bod y ddeuawd, Dion a Sion, wedi gweithio’n uffernol o galed ar eu cerddoriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae hynny i’w weld. Amheus fu gwerth hirdymor teitl Brwydr y Bandiau yn y gorffennol, ond does dim amheuaeth fod canlyniad y gystadleuaeth eleni’n wobr haeddiannol i Alffa am eu hymroddiad.

Dim geiriau

Wythnos yn ddiweddarach, wedi i’r llwch setlo...a’r mwd sychu... ym Môn, llwyddodd Y Selar  i ddal y gitarydd a chanwr, Dion, am sgwrs ac i gael ei ymateb i wythnos gofiadwy.

“Mae’n amhosib i ni ddisgrifio’r teimlad o ennill...dydw i ddim yn credu ga’i fyth y fath deimlad eto” meddai Dion, sydd dal yn amlwg ar ben ei ddigon.

“Cymysgedd o falchder, rhyddhad ac ecseitment. Ro’n i a Sion yn speechless.”

Un o’r gwobrau wrth gwrs oedd cael perfformio ar lwyfan Maes B nos Sadwrn. Gyda dim ond pedair noson o gigio ym Maes B ers rhai blynyddoedd bellach, mae’r cyfle i gael slot ar un o lwyfannau mwyaf Cymru’n brin, ac yn hynod o werthfawr i fand ifanc fel Alffa.

“Roedd y gig ym Maes B yn anhygoel, o’r dechrau i’r diwedd” meddai Dion.

“Eto, roedd y ddau ohonom mor gyffrous ac yn ofnadwy o ddiolchgar bod y cyfle yna i fand ifanc fel ni. Mae symud o chwarae mewn tafarndai i chwarae mewn tent enfawr yn deimlad od iawn...ond yn deimlad hynod dda wrth gwrs!”

Manteisio

Yr hyn sy’n bwysig nawr ydy ble mae Alffa’n mynd o fan hyn, a sut maen nhw’n manteisio ar y cyfleoedd mae Brwydr y Bandiau yn cynnig. Rydan ni wedi gweld sawl enillydd blaenorol yn diflannu’n llwyr...pwy sy’n cofio Nebula, enillwyr 2012? Neu beth am Ar Goll Mewn Cemeg / Lost in Chemistry ym Meifod 2015? A beth mae Siân Miriam, a gurodd Sŵnami i’r teitl yn 2011, yn gwneud erbyn hyn? Gallech chi wneud cyfres ‘ble maen nhw nawr’ yn ddigon rhwydd!

Mae ‘na ambell stori sy’n fwy llwyddiannus wrth gwrs, gydag enillwyr 2016, Chroma, yr amlycaf efallai ynghyd â Ffug (2013). Mae rhywun yn cael yr argraff na fydd Alffa’n gorffwys ar eu rhwyfau, ond yn hytrach yn manteisio cymaint â phosib ar y fuddugoliaeth.

“Mae ennill y gystadleuaeth yn deimlad andros o dda” medd Dion.

“Mae'n rhoi hwb enfawr i ni fel band fel rhyw self belief mewn ffordd. Mae'n golygu lot i ni gan bod y siwrne i lle ydan ni heddiw wedi bod mor gyffrous ac yr holl waith caled yn cael ei gydnabod.

“Hefyd mae'n wych ein bod ni wedi gallu rhannu llwyfan gyda’r artistiaid eraill [yn y gystadleuaeth] ac wrth gwrs HMS Morris, Y Reu ac Yws Gwynedd!”

Lle nesaf i Alffa felly?

“Wel gan ein bod ni dal mewn rhyw fath o sioc, ‘da ni am go with the flow fel petai! A thrio gwneud y mwyaf ac y gorau o bob cyfle ‘da ni’n eu cael. Bysa gwneud yr holl bethau a wnaeth Chroma yn wych gan ein bod yn ffrindiau da efo nhw!”

Amen i hynny, ac mae un peth yn sicr, fel Chroma bydd Alffa’n barod iawn i weithio’n galed i ennill eu plwyf.