Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae'r Selar yn falch iawn i gydweithio ag Eisteddfod yr Urdd i drefnu arlwy cerddoriaeth gyfoes ar y maes yn Y Fflint eleni.
Dechreuodd Y Selar drefnu artistiaid ar gyfer llwyfan perfformio'r Eisteddfod yn Abertawe 2011, gyda dim ond dau artisti cyfoes yn perfformio bryd hynny. Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer yr artistiaid wedi cynyddu'n raddol ac eleni bydd 27 o fandiau ac artistiaid unigol cyfoes yn perfformio ar y maes.
Yn ogystal â'r prif lwyfan perfformio, bydd modd dal setiau acwstig ar lwyfan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar lwyfan acwstig Pentre Mr Urdd ac ar lwyfan ardal newydd Y Cwtsh.
Mae'r lein-yp yn ystod yr wythnos yn cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid o grwpiau sefydledig fel Yr Eira a Plu i artistiaid ifanc addawol fel Alffa a Magi Tudur.
Ar ddydd Gwener 3 Mehefin byddwn yn dathlu Diwrnod Cerddoriaeth y BBC trwy gydweithio â Grwelion i lwyfannu nifer o artistiaid y cynllun eleni.
Am y tro cyntaf erioed eleni hefyd mae Bwrdd Syr IfanC yn cynnal gig mawreddog ar y nos Sadwrn i gloi'r wythnos gyda thri o fandiau gorau'r sin ar hyn o bryd yn perfformio - Candelas, Y Bandana a Mellt.
Lein-yp llawn:
Llun 30 Mai
Llwyfan Perfformio
14:00 - Brigyn
15:00 - Plu (set Holl Anifeiliaid y Goedwig)
Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13:00 - Plu
Pentre Mr Urdd
15:00 - Brigyn
Mawrth 31 Mai
Llwyfan Perfformio
12:00 - Cordia
14:00 - Fi a Fo
15:00 - Adwaith
16:00 - Beth Celyn
Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13:00 - Cordia
Mercher 1 Mehefin
Llwyfan Perfformio
12:00 - Gildas
14:00 - Omaloma
15:00 - Henebion
Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13:00 - Henebion
Pentre Mr Urdd
15:00 - Magi Tudur
Y Cwtsh
15:30 - Gildas
Iau 2 Mehefin
Llwyfan Perfformio
12:00 - Alun Tan Lan
13:00 - Y Trŵbz
14:00 - Yr Eira
15:00 - Enillwyr 'Pwy Geith y Gig'
16:00 - Magi Tudur
Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13:00 - Yr Eira
Pentre Mr Urdd
15:00 - Alun Tan Lan
Gwener 3 Mehefin
Llwyfan Perfformio
11:00 - Roughion
12:00 - Raffdam
13:00 - Danielle Lewis
14:00 - Aled Rheon
15:00 - Ysgol Sul
16:00 - Fleur de Lys
Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13:00 - Ysgol Sul
Pentre Mr Urdd
15:00 - Aled Rheon
Y Cwtsh
15:30 - Fleur de Lys
Sadwrn 4 Mehefin
Llwyfan Perfformio
12:00 - Alffa
13:00 - Chwalfa
14:00 - Uumar
15:00 - Y Cledrau
16:00 - CaSTleS
Llwyfan Coleg Cymraeg Cenedlaethol
13:00 - Y Cledrau
Pentre Mr Urdd
15:00 - Uumar
Y Cwtsh
15:30 - Chwalfa
Gig i Gloi yr Eisteddfod
Bwrdd Syr IfanC yn cyflwyno...
Candelas / Y Bandana / Mellt
