Search site


Cyhoeddi amserlenni llwyfannau Steddfod Gen

14/05/2015 21:29

Os nad oeddech chi'n gwrando ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru neithiwr, yna rydach chi wedi colli Guto Brychan yn cyhoeddi pwy sy'n chwarae lle a phryd ar lwyfannau swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. 

Roedd Guto'n sgwrsio gyda Lisa am yr arlwy, ac fe gyhoeddodd pwy oedd yn chwarae ar ba noson ym Maes B, ac ar lwyfan perfformio'r maes ym Meifod fis Awst. 

Efallai nad yw'n syndod mae Candelas sy'n hedleinio nos Sadwrn olaf y Steddfod ym Maes B, gydag Yws Gwynedd yn cloi y nos Wener, Sŵnami nos Iau a'r hynod addawol Bryn Fôn nos Fercher.

Uchafbwynt llwyfan prif faes yr Eisteddfod (Maes A) eleni ydy Geraint Jarman yn cloi arlwy nos Wener. Difyn nodi leinyp ifanc a chyfoes iawn yr olwg ar y maes ar nos Sadwrn olaf y Steddfod hefyd gydag Yr Ods, Yws Gwynedd, Yr Eira, Palenco ac Osian Howells.  

Gallwch weld yr amserlenni'n llawn yn y stori yma ar Golwg360.