Search site


Cyhoeddi dyddiad ac artistiaid cyntaf Focus Wales 2018

06/11/2017 20:46

Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth flynyddol Wrecsam, FOCUS Wales, wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad nôl yn 2018 dros y ddyddiadau 10 -12 Mai.

Mae’r ŵyl yn un sy’n cael ei chynnal mewn amryw leoliadau yn nhref Wrecsam bob mis Mai ers rhai blynyddoedd, gan gyfuno perfformiadau gan lwyth o artistiaid gyda sgyrsiau diwydiant a sesiynau amrywiol eraill.

Dyma fydd wythfed blwyddyn yr Ŵyl, a dywed gwefan Focus Wales “bydd y 8fed tro yn croesawu dros 8,000 o bobl i'r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2017 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau”

Mae hanner cant o’r bandiau fydd yn chwarae yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf wedi eu cyhoeddi, gan gynnwys Alffa, y band ifanc o Lanrug a gipiodd deitl Brwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.

Bydd dros ddau gant o fandiau’n chwarae yng  Ngŵyl Focus Wales yn 2018, gyda dros ugain llwyfan ym mhob twll a chornel o Wrecsam “yn ogystal â chynnig sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, comedi undyn, ffilm a ddigwyddiadau celfyddydol trwy gydol yr ŵyl”.

Mae’n bosib bachu tocynnau cynnar o wefan Focus Wales nawr.