Search site


Cyhoeddi lein-yps Maes B Llanelli

21/05/2014 20:52

Mae trefnwyr gigs Maes B yn Eisteddfod Llanelli wedi cyhoeddi ei lein-yps ar gyfer yr wythnos. 

Cyhoeddwyd y newyddion ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru heno (21 Mai).

Hedleinars y nosweithiau ydy Yr Ods, Candelas, Y Bandana a Sŵnami, ond mae nifer o artistiaid ifanc addawol yn cael cyfle i gamu i'r llwyfan yn ystod yr wythnos hefyd. 

Mae'r gigs ym Maes B yn dechrau ar nos Fercher yr Eisteddfod (6 Awst) ac yn dod i ben ar y nos Sadwrn (9 Awst).

Bydd mwy o wybodaeth am gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod yn erthygl 'Geid i'r Gwyliau' rhifyn nesaf Y Selar sydd allan ddydd Llun. 

Lein-yps Maes B, Eisteddfod Llanelli 2014

Nos Fercher - Yr Ods, Sen Segur, Colorama, Gwenno, Y Reu, Gramcon, Mellt

Nos Iau - Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, R Seiliog, I Fight Lions, Y Ffug, Breichiau Hir

Nos Wener - Y Bandana, Al Lewis Band, Yr Eira, Y Cledrau, Castro, Trwbz

Nos Sadwrn - Sŵnami, Endaf Gremlin, Ywain Gwynedd, Bromas, Yr Ayes