Search site


Cyhoeddi mwy o berfformwyr Gwobrau'r Selar

20/01/2017 19:49

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi enwau 5 o artistiaid ychwanegol fydd yn perfformio yng Ngwobrau'r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 18 Chwefror

Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddwyd rhan gyntaf lein-yp ein dathliad blynyddol mawreddog, sef Candelas, CaStLeS, Ffracas, Chroma a Cpt Smith.

Y pump artist ychwanegol fydd yn perfformio ydy:

Cowbois Rhos Botwnnog - a ryddhaodd eu pedwerydd albwm yn 2016, yn dwyn yr enw addas iawn IV, ac un o fandiau amlycaf Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. 

Gwilym Bowen Rhys - wedi rhoi ei stamp ar y sin gyda'r Bandana a'i brosiect teuluol, Plu, mae'r cerddor amryddawn wedi bod yn prysur sefydlu ei hun fel artist unigol yn ystod 2016 gan ryddhau ei albwm cyntaf, O Groth y Ddaear, ym mis Awst.

Alffa - deuawd ifanc addawol o Lanrug sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod 2016 diolch i gigio rheolaidd a rhyddhau eu EP cyntaf yn yr hydref.

Fleur de Lys - y grŵp roc o Fôn gyda chaneuon bachog fu'n rhan o gynllun Gorwelion yn 2016, ac a ryddhaodd eu hail EP, Drysa, yn ogystal â'r sengl 'Cofia Anghofio' yn ystod y flwyddyn.

HMS Morris - un o grwpiau gorau Cymru ar hyn o bryd gyda'u synau pop seicadelig a pherfformiadau byw cofiadwy. Rhyddahwyd eu halbwm cyntaf ym mis Tachwedd yn dynn ar sodlau taith Brydeinig.

"Dwi'n credu'n bod ni'n falch iawn â lein-yp Gwobrau'r Selar eto eleni" meddai trefnydd Gwobrau'r Selar, Owain Schiavone.

"Rydan ni wastad yn trio adlewyrchu'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn, yr artistiaid sydd wedi bod yn weithgar, ond gan hefyd wneud yn siŵr bod digon o amrywiaeth cerddorol. Ar ben hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n adlewyrchu'r artistiaid oedd yn boblogaidd ym mhleidlais gyhoeddus Gwobrau'r Selar wrth gwrs."

"Dwi'n siŵr bod yr artistiaid sy'n perfformio'n cynnig mwy na digon i dynnu dŵr i'r dannedd ac mae'n siŵr o fod yn glamp o noson unwaith eto eleni."

Mae tocynnau Gwobrau'r Selar yn gwerthu'n gyflym a bydd y diddordeb yn siŵr o gynyddu eto'n dilyn cyhoeddi'r lein-yp. 

Mae modd i chi brynu tocynnau o'r mannau canlynol:

- Siop Inc, Aberystwyth

- Palas Print, Caernarfon

- Awen Meirion, Y Bala

- Caban, Caerdydd

- Llên Llŷn Pwllheli

- Swyddfa UMCA, Aberystwyth

....neu gallwch archebu arlein wrth gwrs.