Search site


Cyhoeddi rhestrau byr 'Digwyddiad Byw' a 'Gwaith Celf'

05/02/2014 21:40

Bydd y rhai sy'n dilyn Y Selar ar Twitter yn gwybod ein bod wedi cyhoeddi rhestrau byr dau gategori arall Gwobrau'r Selar nos Lun a nos Fawrth. 

Nos Lun, cyhoeddwyd rhestr fer categori 'Digwyddiad Byw Gorau' 2013, gyda Maes B Steddfod Dinbych; Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych; a Thaith Candelas, Sŵnami a Hud ym mis Awst yn dod i'r brig. 

 

Erbyn nos Fawrth, tro categori 'Gwaith Celf Gorau' oedd hi a llongyfarchiadau i albwm Llithro gan Yr Ods; EP Sŵnami, Du a Gwyn; ac albwm Un Tro gan Siddi ar gyrraedd y rhestr fer o dri. 

 

Bydd yr enillwyr i gyd yn cael eu cyhoeddi yn noson Wobrau'r Selar yn Neuadd Fawr (Canolfan y Celfyddydau) Aberystwyth ar nos Sadwrn 15 Chwefror. Mae tocynnau'r gig yn gwerthu'n dda iawn ac ar gael am ddim ond £8 ar Sadwrn.com nes nos Sul 9 Chwefro (£10 ar ôl hynny).