Search site


Dros 100,000 wedi gwylio ‘Sebona Fi’

21/10/2016 14:12

Dros nos mae’r nifer sydd wedi gwylio fideo ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd wedi croesi 100,000, ac mae Y Selar yn amau bod hynny’n rhyw fath o record ar gyfer fideo cerddoriaeth Gymraeg.

Bydd rhai ohonoch yn cofio mai’r fideo yma, a gynhyrchwyd yn annibynnol gan Yws a’i fand, oedd enillydd teitl ‘Fideo Gorau’ Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni.

Fis Tachwedd y llynedd, fe ysgrifennodd Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, flog yn trafod pwysigrwydd fideos i hyrwyddo cerddoriaeth gan gyfeirio at y ffaith bod 25,000 wedi gwylio ‘Sebona Fi’ bryd hynny. Mae’r ffaith bod pedair gwaith y ffigwr hwnnw wedi gwylio’r fideo bellach yn syfrdanol ac yn arwydd pellach o boblogrwydd Yws Gwynedd…neu y ‘Bryn Fôn newydd’!

Mae Yws wedi bod yn siarad gyda gohebwyr Golwg360 heddiw gan ddweud ei fod yn gobeithio bydd llwyddiant y fideo’n annog cerddorion Cymraeg eraill i fynd ati i gynhyrchu fideos ar eu liwt eu hunain, gan ddweud bod y fideo heb os wedi cyfrannu at boblogrwydd y gân.

Wrth i ni baratoi i lunio rhestr fideos y flwyddyn ar gyfer Gwobrau’r Selar unwaith eto, gobeithio’n wir bydd eraill yn mynd ati i efelychu Yws.

Os ydach chi’n artist neu fand sydd wedi cynhyrchu fideo ar gyfer un o’ch caneuon yn ystod 2016, rhowch wybod i ni gael gwneud yn siŵr bod y fideo ar ein rhestr – yselar@live.co.uk

Llongyfarchiadau i Yws felly, a jyst i roi hwn bach arall i’r ffigwr, dyma’r fideo i chi gael gweld!