Search site


Dros 25,000 wedi gwylio fideo Yws Gwynedd

24/11/2015 21:20

Rydan ni'n brysur yn paratoi rhestrau enwebiadau categoriau Gwobrau'r Selar, ac yn eu mysg mae categori 'Fideo Gorau' a gyflwynwyd i'r Gwobrau am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl.

Gallwch weld y rhestr gyfredol yma, ond cofiwch gysylltu os oes unrhyw fideos cerddoriaeth Cymraeg a gyhoeddwyd yn 2015 sydd ddim ar ein rhestr ar hyn o bryd.  

Wrth i ni bori trwy'r rhestr, mi wnaethom ni sylwi bod fideo Yws Gwynedd i'r gân boblogaidd 'Sebona Fi' wedi cael ei wylio dros 25,000 o weithiau ers ei gyhoeddi ar YouTube ym mis Mehefin - ffigwr uchel iawn ar gyfer fideo cân Cymraeg, yn enwedig un sydd wedi'i gynhyrchu'n annibynnol. Mae Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, wedi cyhoeddi blog yn trafod hyn ar Golwg360 heddiw

Nid dyma'r fideo cerddoriaeth Cymraeg mwyaf poblogaidd ar YouTube cofiwch...nid eto beth bynnag!!

Er ddim yn sicr, rydan ni'n amau mai'r clasur yma i'r gân 'Dal Ni Lawr' sy'n dal y record ar hyn o bryd gyda dros 69,000 wedi gwylio wrth i ni gyhoeddi'r stori yma.

Mae'r fideo yma i Undegpedwar gan Y Niwl a gyfarwyddwyd gan Ryan Owen Eddleston hefyd wedi dal y sylw gyda bron i 40,000 wedi gwylio hyd yn hyn. 

Nid dim ond clasuron o gasgliad yr hen gyfres wych 'na, Bandit, sydd wedi denu miloedd i wylio arlein cofiwch, mae enillydd teitll 'Fideo Gorau' Gwobrau'r Selar 2013, sef fideo 'Gwreiddiau' gan Sŵnami yn agosau at gael ei weld 20,000 o weithiau.