Search site


EP ac aelod newydd Hyll

31/07/2017 22:36

Mae EP cyntaf y grŵp ifanc o Gaerdydd, Hyll, allan ar label Recordiau JigCal nawr.

Mae’r casgliad byr newydd yn dilyn dwy sengl sydd eisoes wedi’u rhyddhau ar label Meilir Gwynedd, sef ‘Diwedd Gwanwyn Tragwyddol  Max Rockatansky’ ym Mehefin 2016, ac ‘Ysgol’ a ryddhawyd fel sengl ddwbl ar y cyd â’r grŵp ifanc arall o’r brifddinas, Cadno ym mis Hydref llynedd. 

Er bod y casgliad byr allan yn barod, bydd y lansiad swyddogol yn digwydd yng Nghaffi Maes B am 3:30 ar ddydd Mawrth y Steddfod wythnos nesaf (8 Awst).

Mae 5 o draciau ar yr EP, sef:

1.       Sling Shot

2.       Efrog Newydd, Efrog Newydd

3.       Ganja Cartref Mam

4.       Cilio

5.       Rhwng Dy Galon a Dy Gnau

Bos JigCal, Mei Gwynedd, sydd hefyd wedi cynhyrchu’r EP ac fe wnaed y gwaith recordio yn ei stiwdio, Stiwdio Seindon, yng Nghaerdydd.

Mae’r EP wedi’i ryddhau’n ddigidol ac ar gael o’r siopau cerddoriaeth digidol arferol.

Y newyddion mawr arall gan y band ydy bod aelod newydd wedi ymuno, gan olygu bod y triawd yn troi’n bedwar. Owain Jones ydy’r aelod newydd, a bydd yn chwarae’r drymiau. Mae’r ymuno â’r tri aelod craidd sef Bedwyr ab Ion, Iwan Williams a Jac Evans.

Chwaraeodd Owain gyda’r band am y tro cyntaf mewn gig yn The Moon Club yng Nghaerydd nos Fawrth diwethaf (25 Gorffennaf) a’i gig nesaf gyda nhw fydd y gig ym Maes B ar nos Wener y Steddfod, 11 Awst.

Dyma drac agoriadol y casgliad newydd, ‘Sling Shot’: