Search site


EP newydd Datblygu

21/11/2012 21:03

Newyddion cyffrous iawn sydd wedi cyrraedd clustiau Y Selar ydy bod un o'r grwpiau Cymraeg pwysicaf erioed, Datblygu, ar fin rhyddhau EP newydd sbon.

Datblygu ydy prosiect yr enigma David R. Edwards a Patricia M. Morgan, ac maen nhw'n dathlu 30 mlynedd ers ffurfio'r grŵp eleni. Efallai y byddwch chi'n cofio erthygl yn sôn am arddangosfa arbennig am y grŵp yng Nghaerdydd yn rhifyn mis Awst o'r Selar. 

Bydd label Ankst Musik yn rhyddhau EP o'r enw 'Darluniau Ogof o'r Unfed Ganrif ar Hugain', sydd â phedwar trac newydd sbon danlli ar 26 Tachwedd, a hynny ar record finyl 7 modfedd. 

"Mae un sesiwn recordio draw yn stiwdio Fflach yn yr Hydref yn ddigon i brofi fod gwychder y caneuon emosiynol yn dal yna a syniadaeth David mor berthnasol ag erioed" meddai'r datganiad swyddogol gan Ankst. 

"Wir mae'r tracie i gyd yn cicio fel mul a ma hi'n amlwg ein bod ni wedi bod ar ein colled wrth i'r band ddisgyn yn dawel ers y nawdega. Am nawr mae'r EP yma yn ddigon"

Mae'r newyddion yn amserol iawn wrth i ffilm ddogfen arbennig sydd wedi'i chynhyrchu gan Owain Llŷr, 'Prosiect Datblygu', gael ei dangos am y tro cyntaf yn Theatr Mwldan, Aberteifi nos Wener yma - mwy  fanylion fan hyn. Bydd copiau o'r record nifer cyfyngedig ar gael yn y premiere nos Wener, yn ogystal ag o wefan Ankst a rhai siopau lleol.

Traciau'r EP newydd:

A1 (i) Bywoliaeth (ii) Wastod yn Cerdded yn Unig

A2 (i) Ffantasi'r Safonau (ii) Campws!