Search site


Galw mawr am Georgia

22/09/2016 17:11

Mae’n ymddangos bod galw aruthrol am docynnau i berfformiadau byw Georgia Ruth Williams wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm newydd ddechrau mis Hydref.

Cyhoeddodd Clwb Ifor Bach heddiw eu bod am gynnal ail noson lansio ar gyfer yr albwm Fossil Scale yng Nghanolfan Chapter Caerdydd gan bod cymaint o alw am docynnau.

Mae’r gig lansio cyntaf i’w gynnal ar nos Sadwrn 15 Hydref, a bellach mae ail gig wedi’i ychwanegu ar y noson ganlynol, sef nos Sul 16 Hydref.

Pan siaradodd Y Selar â Chlwb Ifor Bach prynhawn yma, datgelodd mai dim ond 10 o docynnau oedd ar ôl ar gyfer y gig ar y 15fed a’u bod nhw’n teimlo felly y dylid ychwanegu ail ddyddiad.

“Ma hyn y sypreis mawr gan bod y rhan fwyaf o gigs Cymraeg ni’n trefnu’n gwerthu 90% o docynnau ar y drws, yn hytrach nag ymlaen llaw” meddai un o swyddogion Clwb wrth Y Selar.

Hen bryd i bobl ddechrau archebu tocynnau ymlaen llaw medde ni!

Gigs Cymraeg yn ffynnu

Mae nifer o gigs Cymraeg arwyddocaol ar y gweill gan Clwb Ifor Bach dros y misoedd nesaf.

Yn ogystal â gig olaf Y Bandana yn y de ar nos Sadwrn 1 Hydref, fe fydd Omaloma yn gwneud gig Twrw yn Clwb ar nos Wener 28 Tachwedd.

Fe gyhoeddwyd yn ddiweddar bod Eden, y grŵp pop poblogaidd o’r 90au a ail-ffurfiodd ar gyfer gig Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Y Fenni, i berfformio yng Nghlwb Ifor Bach ar 10 Chwefror 2017.

Dywedodd Clwb Ifor Bach wrth Y Selar heddiw bod dros chwarter y tocynnau ar gyfer y gig yma wedi gwerthu eisoes, a’u bod nhw’n gobeithio gallu ychwanegu ail ddyddiad os ydy’r diddordeb yn parhau.

Mae’n ymddangos felly bod gigs Cymraeg yn ffynnu yn un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru, a hir oes i hynny.