Search site


Gorymdaith i achub Stryd Womanby yfory

28/04/2017 22:22

Bydd protest yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yfory fel rhan o’r ymgyrch i achub Stryd Womanby fel cyrchfan ar gyfer cerddoriaeth fyw.

Mae’r trefnwyr, sef mudiad ‘Save Womanby Street’, yn annog unrhyw un sydd wedi “chwerthin, crio, chwysu, gwaedu, neu obeithio ar Stryd Womanby” i ymuno â nhw wrth iddyn nhw orymdeithio i Neuadd y Ddinas gan fynnu bod gwleidyddion yn gwarchod y stryd eiconig.

Rai wythnosau nôl daeth i’r amlwg bod datblygiad fflatiau newydd drws nesaf i Glwb Ifor Bach yn debygol o beri bygythiad i’r ganolfan enwog, yn ogystal â Chanolfan Fuel Rock Bar ar y stryd. Mae dwy ganolfan amlwg arall ar y stryd, The Full Moon a Dempseys eisoes wedi cau yn ddiweddar, er bod ymdrech ar y gweill i ail-agor The Full Moon.

Eisoes, mae deiseb lwyddiannus wedi’i chynnal, sy’n golygu bod rheidrwydd ar i’r Senedd drafod cyflwyno cyfraith ‘asiant dros newid’ (agent of change) yng Nghymru fyddai’n golygu mai cyfrifoldeb datblygwyr fyddai datrys unrhyw broblemau sŵn posib allai godi i gartrefi newydd. Mae’r gyfraith eisoes mewn grym yn Lloegr.

Bydd y gorymdeithwyr yn ymgasglu ar Stryd Womanby am 4:00 pnawn fory, dydd Sadwrn 29 Ebrill, a’r orymdaith yn gadael am 5:00.

Mae manylion llawnach ar ddigwyddiad Facebook yr orymdaith