Search site


Gwerthu allan gig y Paf

04/04/2017 14:25

Fe werthodd holl docynnau gig y Pafiliwn ar nos Iau Eisteddfod Môn eleni o fewn ychydig oriau o fynd ar werth ddoe.

Cynhaliwyd gig gyda bandiau cyfoes yn perfformio i gyfeiliant Cerddorfa y Welsh Pops yn y Pafiliwn am y tro cyntaf yn Eisteddfod Y Fenni llynedd.

Roedd yr ymateb i’r noson, a’r perfformiadau gan Candelas, Yr Ods a Sŵnamin yn y gig hwnnw’n ardderchog, cystal nes bod rhaid i’r Eisteddfod geisio cynnal digwyddiad tebyg yn Ynys Môn eleni.

Yws Gwynedd, Yr Eira, Mr Phormula ac Alys Williams ydy’r artistiaid sydd yn perfformio gyda’r Welsh Pops y tro yma ac roedd y cyffro cymaint wrth i docynnau gael eu rhyddhau am 10:00 bore ddoe, nes bod y cyfan wedi gwerthu erbyn 4:00 yn y prynhawn.

‘Arwyddion yna’

Mae’r Selar wedi bod yn sgwrsio gydag un o drefnwyr y digwydd, Griff Lynch, heddiw gan holi beth yw ymateb y trefnwyr i’r cyffro ynglŷn â’r gig eleni, yn enwedig ar ôl iddynt gymryd siawns trwy arbrofi gyda’r syniad llynedd.”

“Llynedd doedd neb yn gwybod be oedd o, ac roedd hi’n anodd gwerthu’r syniad newydd yna i bobl” meddai Griff wrth Y Selar.

“Eleni roedd modd i ni ryddhau fideo promo’n dangos be oedd y cyngerdd, a wedyn roedd gen ti gyfuniad o bobl oedd wedi mwynhau llynedd ar un llaw, a phobl oedd yn gutted nad oedden nhw yna ar y llall ac isho gwneud yn siŵr bod nhw yna eleni.”

“Roedd hyn i gyd yn creu panic a frenzy sydd ddim yn cael ei weld yn aml efo pethau Cymraeg felly rydan ni gyd yn falch iawn heddiw.”

Datgelodd Griff bod y rhagolygon ar gyfer y gig yn dda ar ôl iddyn nhw ryddhau’r fideo promo i hyrwyddo’r digwyddiad rhyw bythefnos yn ôl.

“Mae’n hawdd dweud hynny rŵan, ond roedd gen i deimlad yr holl amser y byddai tocynnau’n mynd yn sydyn. Mi aeth y fideo promo yn wyllt ar ôl i ni ei ryddhau o, ac roedd yn amlwg bod diddordeb gwirioneddol. Oddan ni’n hanner difaru peidio rhyddhau’r tocynnau hefyd ar y pryd o weld yr ymateb i’r fideo.”

“Roedd yr arwyddion yna, a pan ti’n ychwanegu Yws Gwynedd, sy’n un o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin, i’r gymysgedd yna mae ‘na obaith o greu cyffro.”

Agor y Pafiliwn i fyny

Ar ôl llwyddiant y digwyddiad yn Y Fenni, a gan ystyried y ffaith eu bod nhw wedi llwyfannu tri o’r prif grwpiau cyfoes bryd hynny, roedd Y Selar am wybod faint o her oedd cynllunio rhywbeth tebyg eleni.

“Mi wnaethon ni gael y sgwrs ynglŷn ag oedden ni am ei wneud o eto neu beidio” meddai Griff.

“Roedd ‘na ddadl o blaid ac yn erbyn. Ar ôl ymateb anhygoel llynedd, fyset ti ddim isho tanseilio hynny trwy lwyfannu rhywbeth sydd ddim yn gweithio cystal. Ond ar y llaw arall, mi wnaeth o agor y Pafiliwn i fyny gymaint nes bod rhaid manteisio ar hynny.”

A beth am y dewis o artistiaid eleni?

“Dwi’n meddwl bod pawb yn cynnig rhywbeth gwahanol.”

“Mae Yws yn dod a’r clout ti angen diolch i’w boblogrwydd. Mae Yr Eira’n apelio at y crowd Maes B – maen nhw’n fand sydd reit yng nghanol hynny ar hyn o bryd, er bod Yws hefyd i raddau.”

“Yna ma’ Ed [Holden – Mr Phormula] yn dod a rhywbeth hollol wahanol, ac o bosib hollol boncyrs – dwi’n meddwl neith o dorri’r noson fyny’n dda. A wedyn mae Alys yn ddewis amlwg fel enw mae pawb yn adnabod, a’r ffaith bod hi wedi gwneud stwff efo cerddorfeydd o’r blaen.”

Rhywbeth arbennig

Does dim amheuaeth bod y gig wedi dal y dychymyg, ac mae potensial i’r noson ym Môn fod hyd yn oed yn fwy diddorol nag yr un yn Y Fenni o ystyried yr amrywiaeth cerddorol sydd yno.

Mae Griff yn gobeithio bod y digwyddiad yn cynnig rhywbeth arbennig i’r sin ar hyn o bryd.

“Dwi’n gobeithio fod o’n profi bod buddsoddi mewn sioe dda, a chynhyrchiad o safon uchel yn talu ei ffordd – bod pobl yn gwerthfawrogi hynny.”

“Gobeithio bod digwyddiadau fel hyn hefyd yn rhoi targed i artistiaid ifanc, yn rywbeth iddyn nhw anelu ato a dweud ‘dwi’sho bod yn ran o hyna’.”