Search site


Mwy o Adwaith

07/02/2017 21:15

Fe fydd y grŵp ifanc cyffrous o Gaerfyrddin, Adwaith, yn rhyddhau eu hail sengl ‘Haul’ ar 27 Chwefror.

Fel tamaid i aros pryd bydd y trac newydd ar gael i’w ffrydio ar-lein ddydd Gwener yma, 10 Chwefror, i nodi Dydd Miwsig Cymru.

Hon fydd ail sengl y pedwarawd yn dilyn ‘Pwysau’ a gafodd ei rhyddhau dros yr hydref ac a gafodd ei chanmol i’r cymylau gan nifer fawr o bobl sy’n deall eu stwff am gerddoriaeth.

“Gan ymwrthod ag unrhyw strwythur traddodiadol, a gan bara’ dwy funud yn unig, rhoddir pwyslais amlwg ar neges gref a darlun pwerus o broblemau cyfoes yr ifanc” meddai Gethin Griffiths yn ei adolygiad o’r sengl yn rhifyn mis Tachwedd o’r Selar

Mae’r DJ radio, Bethan Elfyn, wedi disgrifio Adwaith fel “y band newydd mwyaf cŵl o Gymru” yn ddiweddar, ac yn ei ddarn ‘Ti di clywed…’ yn rhifyn Tachwedd o’r Selar dywedodd Owain Gruffudd bod “Adwaith yn cynnig rhywbeth cyffrous ac eithaf unigryw”.

Bydd tipyn o groeso i’r sengl newydd o sawl cyfeiriad felly, ac fe fydd yn cael ei rhyddhau gan label Decidedly i’w lawr lwytho am ddim.

Mentrodd Hollie, Chelsea, Gwenllian a Heledd o’r grŵp yn ôl i’r stiwdio ar ddiwedd haf 2016 i recordio’r sengl gan weithio unwaith eto gyda’r cynhyrchydd Steffan Pringle.

Dywed y label bod y gân yn adlais o sŵn roc amgen Americanaidd ddiwedd yr wythdegau, gan ddwyn cymhariaeth ag albwm 'Green' gan REM, Throwing Muses Kridtin Hersh, Natalie Merchant a 10,000 Maniacs ond hefyd grwpiau mwy cyfoes fel Bombay Bicycle Club a Haim.

Mae’r sengl yn nodi dechrau pwrpasol i’r flwyddyn i Adwaith, blwyddyn a allai eu gweld yn sefydlu eu hunain go iawn a chreu argraff ar gynulleidfa eang – cadwch olwg ar rhain gyfeillion.

Dyma sengl gyntaf Adwaith, 'Pwysau':