Search site


Mwy o restrau Byr

10/02/2014 21:14

Rhestr fer categori 'Record Hir Orau' ydy'r diweddaraf i'w chyhoeddi wrth i bethau boethi cyn Noson Wobrau'r Selar yn Aberystwyth ar y penwythnos. 

Y tri sydd wedi cyrraedd y rhestr, sy'n un o uchafbwyntiau'r gwobrau, ydy Llithro - Yr Ods; Bywyd Gwyn - Y Bandana; ac albwm Candelas, sy'n rhannu enw'r grŵp. 

 

Mae rhestrau byr dau gategori arall wedi eu cyhoeddi dros y penwythnos, sef 'Hyrwyddwr Gorau' a 'Band neu Artist Newydd Gorau'. 

Mae enillwyr teitl 'Hyrwyddwr Gorau' llynedd, criw Nyth', wedi cyrraedd y rhestr fer unwaith eto eleni ynghyd â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a chriw 4 a 6 yng Nghaernarfon. 

 

Categori 'Band neu Artist Newydd gorau ydy un o'r mwyaf diddorol eleni gyda llun o artistiaid ifanc wedi dod i'r amlwg yn 2013. Kizzy Crawfod o Ferthyr Tudful; Yr Eira o Fangor ac Y Cledrau o'r Bala sydd wedi cyrraedd y brig. 

Mae tocynnau'r noson wobrau ar werth rŵan o wefan Sadwrn.com; siopau Inc ac Andys Records yn Aberystwyth; a siopau Palas Print ym Mangor a Chaernarfon.