Search site


Pump i’r Penwythnos 04/08/2017

04/08/2017 15:01

Gig: Daniel Lloyd a Mr Pinc yn Copa, Caernarfon – Sadwrn 5 Awst

Er mwyn cychwyn y penwythnos yn iawn – be am fynd i Copa, Caernarfon heno i glywed Daniel Lloyd a Mr Pinc. Bydd y drysau’n agor am wyth, ac mae modd prynu tocynnau o flaen llaw ym Mhalas Print yn y Dre hefyd.

Yn cefnogi hefyd bydd Phil Gas a’r Band.

Hefyd yn Mandstand Aberystwyth heno, mae’r trydydd gig gŵyl ‘Hen Linell Bell’ arall a gynhelir gan Arad Goch. Mi fydd y Mellt, Fflamau Gwyllt a Danielle Lewis yn chwarae – rhwng 19:00 a 22:00 heno.

Pob lwc i gyngerdd agoriadol y Steddfod a fydd yn cael ei gynnal heno, (sydd bellach wedi gwerthu allan) ac fe welwn i chi’n y Bar Gwyrdd / Caffi Maes B / Tŷ Gwerin / Maes B / Gigs Cymdeithas wythnos nesa’ ar gyfer wythnos ore’r flwyddyn!

Tydi hi ddim yn wythnos y ‘Sdeddfod heb hon cofiwch:

 

Cân: ‘Llyfr Gwag’ gan Gwilym

Mae’r band newydd o Fôn ac Arfon, Gwilym, wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf yr wythnos yma, sef y sengl ‘Llyfr Gwag’.

Bwriad y band oedd rhyddhau rhywbeth cyn yr Eisteddfod, a roedd hi’n broses go gyflym rhwng ‘sgwennu a’i recordio hi. Wythnos oedd rhwng y cyfnod o sgwennu’r gân a’i recordio, ac yna’i rhyddhau hi wythnos yn ddiweddarach.

Cefodd ei recordio gyda Callum Lloyd Williams yn y stiwdio New Street, a nid ‘Llyfr Gwag’ oedd yr unig gân a recordiwyd, gan bod addewid o fwy o gynnyrch ar y ffordd ganddyn nhw ar ffurf EP, er nad oes brys i’w rhyddhau hi nes cyfnod y ‘Dolig.

“Parhau i greu enw, gigio a chyfansoddi di’r bwriad ha’ yma” medd y band wrth Y Selar mewn sgwrs fer yr wythnos hon.

Gwyliwch y gofod!

Dyma ‘Llechan Lân’ a ryddhawyd gan Gwilym ar SoundCloud ‘chydig o fisoedd yn ôl:

 

Record: EP Hyll

Mae hi’n gyfnod prysur wrth gwrs, gyda llwythi o fandiau yn rhyddhau cynnyrch, a braf yw gweld EP cyntaf y grŵp o Gaerdydd, Hyll, allan ar label Recordiau JigCal rŵan.

Mae’r grŵp eisoes wedi rhyddhau dwy sengl gyda JigCal, sef ‘Diwedd Gwanwyn Tragwyddol  Max Rockatansky’ ym Mehefin 2016, ac ‘Ysgol’ a ryddhawyd fel sengl ddwbl ar y cyd â’r grŵp ifanc arall o’r brifddinas, Cadno ym mis Hydref llynedd.

Er bod y casgliad byr allan yn barod, bydd y lansiad swyddogol yn digwydd yng Nghaffi Maes B am 3:30 ar ddydd Mawrth y Steddfod Genedlaethol, 8 Awst. Mae’r EP newydd yn cynnwys 5 o draciau, sef:

1.       Sling Shot

2.       Efrog Newydd, Efrog Newydd

3.       Ganja Cartref Mam

4.       Cilio

5.       Rhwng Dy Galon a Dy Gnau

Rheolwr Recordiau JigCal, Mei Gwynedd, sydd hefyd wedi cynhyrchu’r EP a hynny yn ei stiwdio, Stiwdio Seindon yng Nghaerdydd.

Mae’r EP wedi’i ryddhau’n ddigidol ac ar gael o’r siopau cerddoriaeth digidol arferol. 

 

Artist: Ffracas

Bydd Ffracas yn rhyddhau eu hail EP ‘Mae’r nos yn glos ond does dim ffos rhwngtha ni’ ar 16 Awst ar label Ikaching. Ond i’r rhai sydd methu a aros (fel ni) mi fydd yr EP ar gael trwy gydol yr wythnos yn yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos nesa’, felly bachwch un pan gewch chi’r cyfle.

Cawsom flas o’r EP ganddyn nhw’r wythnos hon wrth iddyn nhw roi un cân pyncaidd o’r casgliad ar Soundcloud, sef ‘Pla’, sengl y maent wedi eu perfformio’n fyw hefyd.

Fe agorir yr EP hefo ‘Carots’ a fe ddisgrifir y gân gan Ikaching yn un eithaf trwm â naws Tame Impala-aidd, Pink Floyd cynnar – felly mae’r EP’n swnio fel campwaith yn barod!

Cofiwch diwnio mewn i Radio Cymru nos Fercher pan fydd Ffracas yn ymweld a Lisa Gwilym ar gyfer ei rhaglen. Bydd yr EP ar gael yn eich siopau lleol/ar y we/ ag ar Faes yr Eisteddfod trwy’r wythnos.

Dyma ‘Pla’ oddi ar yr EP:

 

Ac un peth arall..: EP Ani Glass Allan Heddiw

Mae Ani Glass yn rhyddhau fersiwn newydd o’i EP, Ffrwydrad Tawel heddiw, sef y casgliad byr a ryddhawyd yn wreiddiol ar 21 Ebrill.

Cafodd Ani ymateb ardderchog i’r EP gwreiddiol, ac mae’n un o artistiaid prysura’ Cymru ar hyn o bryd wrth iddi berfformio mewn gigs ledled y wlad bron bob wythnos yn ddiweddar. Ond yn hytrach na gorffwys ar ei rhwyfau, mae’r gantores o Gaerdydd wedi rhyddhau EP gyda fersiynau newydd sbon o ganeuon Ffrwydrad Tawel – perffaith ar gyfer y daith lawr i’r Sdeddfod.

Mae Ani wedi troi at rai o gerddorion electroneg mwyaf dawnus Cymru am gymorth gyda’r casgliad newydd – mae R. Seilig, Plyci, Cotton Wolf a Carcharorion i gyd wedi cyfrannu ail-gymysgiad o un o ganeuon yr EP.

Rhyddheir y casgliad wedi’i ail-gymysgu, fel yr EP gwreiddiol, ar label Neb – dyma fydd pumed cyhoeddiad y label sydd hefyd yn gyfrifol am y cerddor electroneg tanddaearol, Twinfield.

Mae’r EP ar gael nawr o siop ar-lein Recordiau Neb. Bydd yr 20 archeb cyntaf yn derbyn copi o boster A3 nifer cyfyngedig – pob un wedi’i rhifo.