Search site


Pump i’r Penwythnos 08/09/17

08/09/2017 09:23

Gig: Set ola’ Yws Gwynedd yn Ngŵyl Rhif 6...am byth?

Wel, mae wythnos yma ‘di bod yn anodd i bawb - rhwng gwaith ac yr ysgol yn ail-gychwyn, a’r sî mai gig ola’ Yws Gwynedd fydd hwnnw yng Ngŵyl Rhif 6 nos Sul yma. Daw’r newyddion mawr ar ôl i Yws gyhoeddi fod y band am gymryd cam yn ôl a gweld be ddigwyddith. Mae dal amser i fachu tocyn i Ŵyl Rhif 6, felly peidiwch a digalonni gormod gan bod y cyfle dal yno i weld Yws yn chwarae.

Yn ogystal ag Yws mae llawer o artistiaid gwych yn dychwelyd i’r ŵyl ‘leni, efo nos Wener 8 Medi yn llawn dop o enwau disglair megis Gulp, Band Pres Llareggub, Yucatan, Synnwyr Cyffredin, Mr Phormula, Candelas, Adwaith, Roughion a Griff Lynch ond i enwi ‘chydig o’r degau fydd yn chware ar y noson. Ac mae’r un yn wir am nos Sadwrn, efo’r teimlad o de ja vu wrth i Fand Pres Llareggub chwarae unwaith yn rhagor. Hefyd ar y noson mi fydd Chroma, Ani Glass, Twinfield, Greta Isaac, Lastigband, DJ Elan Evans, Calfari a Magi Tudur yno.

Nos Sul fydd set Yws Gwynedd, a bydd DJs Nyth yno i diddanu’r gynulleidfa, yn ogystal â Plu, Bob Delyn a’r Ebillion, Alys Williams a’r Band, Yr Eira, a chyfle prin i weld Carcharorion.

Os mai ym mhegwn arall Cymru fyddwch chi, mi fydd H. Hawkline yn ymddangos yng Nghlwb Ifor Bach nos Sadwrn y 9 Medi.  Neu os da chi’n ardal Lincoln mi fydd Plyci yn gwneud set yn y Weird Garden ar nos Wener yr 8 Medi.

Bydd un o fandiau prysura’r sin, Adwaith, yn chwarae mewn gig gyda’r artist o Syria, Rihab, yn Theatrau Sir Gâr yn Llanelli ar nos Sadwrn 9 Medi.

Ac i orffen, bydd Colorama yn chwarae eu gig cyntaf fel band ers 2015 yn Nghanolfan Cymry Llundain ar nos Sul y 10 Medi i nodi  rhyddhau eu halbwm diweddara’, Some Things Just Take Time. Lot, lot, lot o stwff ‘mlaen eto!

 

Artist: Ysgol Sul

Newyddion cyffrous dros ben oedd clywed bod Ysgol Sul am ryddhau EP newydd ar Bandcamp ar 30 Medi. Dyma’r cynnyrch cyntaf iddyn nhw ryddhau ers yr EP Huno yn Rhagfyr 2015 (heblaw am drac ar albwm aml-gyfrannog ‘5’ I KA CHING).

Bu’n gyfnod tawel i’r band o Landeilo eleni, ond mawr yw’r gobaith y cawn glywed mwy ohonynt ar ôl rhyddhau’r EP newydd, Eventide, ddiwedd y mis.

Bu’r band unwaith eto’n recordio â Llyr Pari (Palenco, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Niwl) yn stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed, sef y boi sydd wedi recordio a mastro llawer iawn o’u cynnyrch yn y gorffennol. Bydd Ysgol Sul yn rhyddhau’n annibynnol y tro yma, er iddyn nhw fod yn rhan o dylwyth I Ka Ching ers peth amser. Os ydy’r EP chwarter cystal a’u stwff blaenorol da ni’n edrych ‘mlaen.

Dyma ‘Dwi ar Dân’ oddi ar yr EP Huno – hefyd wedi’i recordio â Llyr Pari:

 

Record: Toddi – Yr Eira

Band arall fydd yn chwarae yng Ngŵyl Rhif 6 ydy Yr Eira, sydd wedi bod yn sôn wrth Y Selar am eu rhyddhad o rhyddhau albwm o’r diwedd.

Mewn sgwrs sydyn â’r Selar, bu Lewys (llais, gitâr) yn trafod rhyddhau’r albwm, a’r profiad o chwarae’n Gig y Pafiliwn yn y ‘Steddfod...

“Rhyddhad (oedd cael yr albwm allan) ‘da ni’n ddeuth’a pawb, da ydy ei gael o allan o’r diwedd. Mae o ddwy flynadd ers gorffen yr EP, felly ma’n neis cal casgliad o ganeuon allan o’r diwedd a chal gneud set bach mwy hefyd de!”

Yn ôl y band, bu’n ddwy flynedd “hectig iawn” wrth i’r broses o recordio fod yn gymhleth wrth iddynt deithio nôl ac ymlaen i weld ei gilydd, gan fod Guto (dryms) ac Ifan (gitâr) yn gweithio yn y gogledd, a Lewys a Trystan (gitâr) yn astudio yng Nghaerdydd. “Oddan ni’n gorfod ffeindio ffordd i neud pob dim yn y canol, ond nath o weithio’n iawn do?”

Wrth sôn am Gig y Pafiliwn dywed bod y profiad wedi hedfan, “ath o fel ‘na de. Dwni’m os gawni fo eto, a dwi’m yn meddwl natho ni gymryd o mewn ddigon. Roeddan ni ar y llwyfan, wedyn pum munud wedyn odda ni ffwrdd. Hwna di’r mwya nyrfys da ni ‘di bod da ni di bod mewn gig.”

Dywed eu bod yn gwerthfawrogi’r holl waith aeth at gynnal y noson, a bod chwarae’r gig wedi bod yn brofiad cwbl “anhygoel”.

Cafodd yr albwm ei ryddhau ar label I Ka Ching fis Gorffennaf, dyma ‘Gadael am yr Haf’ ganddyn nhw (rŵan bod yr haf wedi ein gadael, gwaetha’r modd...)

 

Cân: ‘Brain Damagé’ – Papur Wal

Llwythodd y band newydd o Gaerdydd, Papur Wal, eu hail gân ar SoundCloud ddoe sef ‘Brain Damagé’.

Er mai yng Nghaerdydd ffurfiwyd y grŵp, mae’r tri ohonyn nhw’n wreiddiol o ardaloedd Caernarfon a Môn.  Yr aelodau yw Ianto Gruffudd (llais, gitâr neu gitâr fas), Guto Rhys Huws (dryms) a Gwion Ifor (llais, gitâr neu gitâr fas). ‘Slacker rock’ ydy’r ffordd mae Ianto’n disgrifio eu sŵn, ac maent wedi’u dylanwadu arnynt gan fandiau eiconig fel Pavement, Sonic Youth a The Velvet Underground, a phethau mwy cyfoes fel Parquet Courts a Carseat Headrest.

Maent gyda’i gilydd ers pump i chwe mis, ac maen nhw ‘di bo’n yn brysur yn recordio dau demo gyda Mellt ym Adamsdown, Caerdydd.

Os gofiwch chi, rhyddhawyd eu cân gyntaf ‘Anghofia Dy Hun’ ar Soundcloud ddechrau mis Awst. Gwion ysgrifennodd honno, a Ianto sydd wedi cyfansoddi’r gân newydd...da ‘di fyd.

 

Un peth arall… Ymateb Bryn Fôn* i Pasta Hull 

O’r diwedd, mae Bryn Fôn wedi ymateb i’r gân, sy’n ymosod ar ei edrychiad, ei ganeuon, ac ei oedran i gyfeiliant sain electroneg.

Rhyddhawyd cân Pasta Hull ar Soundcloud fis yn ôl, ac mae bellach wedi’i chwarae dros 2,300 o weithiau, fel protest i’r ffaith bod Bryn Fôn yn cael ei ddewis i hedleinio un o nosweithiau Maes B ‘leni’n ‘Sdeddfod Môn 2017.

Welsh Whisperer aeth ati i gael gair â Bryn am y sefyllfa, er...mae ‘na awgrym bod rhywfaint o olygu wedi bod i’r cyfweliad. Ond gan ei fod o fyny ar Soundcloud ma’n rhaid ei fod o ddifri...tydi?

*Nid yw'r Selar yn gyfrifol am y clip yma...da ni jyst yn tynnu sylw ato fo gan ei fod o'n ddoniol ;-)