Search site


Pump i’r Penwythnos 13/10/17

13/10/2017 13:49

Gig: Twrw a Femme - Adwaith, Marged, Serol Serol, DJ Gwenno, Patblygu – Clwb Ifor Bach

Mae digwyddiadau all fod yn un hanesyddol dan sylw’r penwythnos yma, wrth i Serol Serol chwarae eu gig cyntaf erioed!

Byddan nhw’n chwarae fel rhan o noson ar y cyd rhwng Twrw a Femme yng Nghlwb Ifor Bach heno (Gwener), lle mae’r lein-yp yn cynnwys rhai o’n artistiaid benywaidd gorau. Da gweld lein-yp ffresh, cyffrous sy’n cynnwys Adwaith, Marged, Serol Serol, DJ Gwenno a Patblygu.

Yn ogystal â Femme nos Wener, bydd HMS Morris yn chwarae ar lawr arall yng Nghlwb Ifor Bach, yn cefnogi Yak.

Yn Nolgellau nos Wener bydd Calfari ac Yr Oria yn chwarae’n gig MADolgellau, yn Nhŷ Siamas.

Hefyd nos Wener bydd y Welsh Whisperer yng Nghlwb Criced a Bowlio Bethesda, ac yna yn y Llew Coch, Drefach nos Sadwrn.

Bydd y Moniars yn Nhafarn y Fic, Llithfaen nos Sadwrn a bydd Daniel Lloyd a Mr Pinc yn Mhlas Coch, y Bala.

I ddathlu pên-blwydd Tŷ Tawe, Abertawe yn 30 oed, bydd neb llai na Meic Stevens yn gwneud ymddangosiad yno, ynghyd â Bwncath, sydd newydd ryddhau eu halbwm cyntaf, y noson yn cychwyn am 17:00.

Ac yn olaf, bydd Pasta Hull yn lansio eu halbwm ‘Achw Met’ nos Sadwrn yn Bar Menai ym Mangor am 20:00. Llwyth o ddewis penwythnos yma eto.

Cân: ‘ Y Ddawns’ - Ani Glass (ail-gymysgiad R. Seiliog)

Cyhoeddodd Ani Glass, prosiect cerddorol diweddaraf Ani Saunders, yr wythnos diwetha’ bod ei halbwm cyntaf ar y gweill. Cafodd Ani lwyddiant â’i EP cyntaf ‘Ffrwydriad Tawel’ a ryddhawyd yn gynharach eleni ar label Recordiau Neb, cyn ryddhau fersiynau o ganeuon yr EP wedi eu hail-gymysgu ym mis Awst.

Meddai Ani wrth Y Selar ei bod hi ‘di bod wrthi ers rhai wythnosau’n casglu syniadau a synau, ond bod “y gwaith caled o greu cyfanwaith yn dal i fod o fy mlaen”. Ani fydd yn recordio a chynhyrchu’r albwm newydd ei hun.

“Dwi ddim at frys i orffen, fy nod yw creu cyfanwaith cyson a chryno, ond hoffwn feddwl y byddwn yn dechre gweld y goleuni erbyn dechrau'r Haf”.

Bydd Ani’n cyhoeddi’r albwm ar Recordiau Neb unwaith yn rhagor.

Dyma fersiwn R. Seiliog o ‘Y Ddawns’ o’r EP Ffrwydrad Tawel:

 

Artist: Cpt Smith

Da oedd derbyn y newyddion bod y band trwm o Orllewin Cymru, Cpt Smith yn rhyddhau sengl newydd wythnos nesa’, 20 Hydref sef ‘I Hate Night Out’ ar label I KA CHING. Dyma’u cân gyntaf ers cyhoeddi eu EP cyntaf, Propeller, nôl yn 2016.

Mae aelodau’r band yn cynnwys, Ioan Hazell (llais a gitâr fas, hefyd yn aelod o Names), Jack Brown (dryms), ei frawd Elis Brown (gitâr) a Lloyd Jackson, hefyd ar y gitâr. Mae’r band ifanc wedi creu cryn argraff mewn amser byr ers ffurfio cwpl o flynyddoedd yn ôl.

Mae’n gyfnod prysur i’r ffryntman, Ioan, wrth iddo hefyd gyhoeddi cân newydd wythnos diwetha, sef ‘Limb by Limb’, efo’i brosiect arall, Names, lle mae’n cydweithio â Joey o’r Ffug.

Bydd ‘I Hate Nights Out’ allan yn swyddogol 20 Hydref 2017 ar label I KA CHING.

Dyma’r glasur ‘Propeller’ oddi ar eu EP: 

 

Record: Achw Met – Pasta Hull

Mae noson lansiad albwm cyntaf y band tecno o Gaernarfon, Pasta Hull, yn cael ei gynnal ym Mangor y penwythnos yma.

Mae’r grŵp wedi dod i’r sylw eang dros yr haf diolch i’w can unigryw, gwleidyddol am Bryn Fôn, fel ymateb i’r ffaith ei fod yn hedleinio un o nosweithiau Maes B ‘leni.

‘ACHW MET’ yw’r albwm cyntaf iddyn nhw ryddhau, ac mae’r teitl yn codi o ddywediad sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan drigolion Caernarfon, sy’n golygu ‘ar fy llŵ mêt’.

Cafodd yr albwm ei fastro gan neb llai na’r athrylith Dyl Mei, mae hi erbyn hyn allan ar gopi caled yn Palas Print, ac mae modd ei phrynu’n ddigidol hefyd.

Rydym yn deall bod yr hogia’ hefyd yn bwriadu cyhoeddi record ‘instrumental a techno’ cyn 2018 yn ogystal.

 

Un peth arall..: Phalcons

Band sydd ar fin ffrwydro ar y sin yw band diweddaraf Ben o Sen Segur gynt, sef Phalcons.

Er iddyn nhw fod o gwmpas ers ‘chydig o flynyddoedd, dim ond yr wythnos yma maen nhw wedi dod i sylw eang am y tro cyntaf wrth iddyn nhw gyhoeddi bod eu sengl cyntaf ‘Idle Ways’ ar y ffordd.

Mi fydd hi allan yn swyddogol 15 Tachwedd ar label Recordiau Libertino. Gellir clywed dylanwadau bandiau seicadelig blaenorol Ben ar y sengl. Ond mae hefyd yn swnio’n ffresh a newydd, ac rydym yn disgwyl gweld llawer mwy o’r band yma yn y dyfodol agos

Dyma chydig o stwff blaenorol Ben gyda Sen Segur: