Search site


Pump i’r Penwythnos 15/09/17

15/09/2017 09:59

Gig: Gŵyl Annibyniaeth Cymru - Caerdydd

Y ddinas fawr ydy un o’r llefydd i fod penwythnos yma wrth i Ŵyl Annibynniaeth Cymru gael ei chynnal yno - yr ŵyl gyntaf yn y ddinas i ddathlu’r syniad o annibyniaeth i Gymru. Bydd perfformiadau yn ‘The Moon’ a’r Castle Emporium yn ystod y dydd, a wedyn gig yng Nghlwb Ifor Bach gyda’r nos.

Mae’r leinyp yn cynnwys Aled Rheon, Eadyth, Los Blancos, Adwaith, Cadno, DJ Elan Evans, Argrph a’r anfarwol The Barry Horns.

Er mai dydd Sadwrn y cynhelir yr ŵyl, bydd yr anhygoel HMS Morris a John Mouse yn Nghlwb Ifor Bach heno (Gwener) hefyd.

Yn y Parot yng Nghaerfyrddin heno mae gig gwych arall sy’n cynnig ‘chydig o dubstep Cymraeg Llwybr Llaethog ac un o gigs cyntaf Names, sef prosiect Ioan, fryntman Cpt Smith - drysau’n agor am 20:00.

Yn Nhafarn y Fic, Llithfaen heno hefyd bydd cyfle arbennig i glywed Lleuwen Steffan, Tecwyn Ifan fel rhan o ŵyl Ha’ Bach y Fic. Bydd y dathliadau’n parhau dydd Sadwrn efo Bwncath, Patrobas, Geraint Løvgreen, Gai Toms a John ac Alun.

Wrth nodi Dydd Owain Glyndŵr (16 Medi) mae’r ysbryd cenedlaetholgar yn cael ei danio mewn sawl rhan o’r wlad. Bydd gŵyl arall i hyrwyddo annibyniaeth i Gymru yng Ngaleri Caernarfon ar ffurf ‘Annibynnwyl’ ddydd Sadwrn wrth i Lleuwen a Bwncath berfformio yno.

Lawr yn y canolbarth bydd cyfle i ddal Meic Stevens, Casset a Mari Mathias ym Machynlleth (sef cartref Senedd Owain Glyndŵr-gol.) fory gan fod Gŵyl Glyndŵr ‘mlaen, a hynny yng Nghanolfan Owain Glyndŵr – siŵr o ddenu torf fawr!

I orffen pethe’ ffwrdd bydd Llanfrothen yn cael ei lenwi â nifer o enwau amlwg cerddoriaeth Cymru ddydd Sul gan gynnwys Meinir Gwilym, Mr Phormula, Gai Toms, Geraint Løvgreen, Estella a Twmffat yn nhafarn y Ring, yn y prynhawn am 13:30.

Artist: Calan

Mae’n gyfnod cyffrous dros ben i’r band gwerin traddodiadol Cymraeg, Calan, wrth iddyn nhw adael Cymru fach am yr U.D.A fel rhan o’u taith o amgylch y byd.

Ar ôl chwarae deuddeg gig yno byddan nhw’n symud i Bortiwgal, yna China, Gwlad y Basg a Lloegr, cyn gorffen yn Nenmarc efo pum perfformiad.

Fe ryddhawyd eu pedwerydd albwm yn gynharach eleni, sef Solomon, ar label Sain, ac fe gafodd ei enwebu ar restr hir ‘Albwm y Flwyddyn’ yr Eisteddfod.

Pob lwc i Calan ar eu taith fawreddog.

Record: Albwm Gai Toms ar gael ar LP (nifer cyfyngedig)

Cyhoeddodd Gai Toms wythnos diwetha’ bod ‘Gwalia’ ar gael ar LP feinyl o heddiw ymlaen. Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol ganddo ar ei label ei hun, Recordiau Sbensh, ym mis Gorffennaf, ond gan bod Y Selar yn hoff iawn o feinyl, rydan ni’n gyffrous i glywed am y fformat newydd.

Roedd posib rhag-archebu’r albwm sydd wedi dwyn dylanwadau gwleidyddol ymlaen llaw, ac mae dal posib archebu’r LP heddiw er mwyn cael yr postio am ddim cyn 16 Medi.

Nifer cyfyngedig o gopïau sydd, felly os yn gasglwr recordiau neu beidio, ewch amdani! Does dim angen aros blynyddoedd nes bod mwy o werth ar record er mwyn gwerthfawrogi hon.

 

Cân: ‘Adre’n ôl’ – Casset

Yn ôl pob tebyg mae’r band o frodyr talentog o Feifod ym Mhowys, Casset yn agos iawn at orffen eu halbwm cyntaf.

Byddan nhw’n gorffen recordio’r albwm ar 31 Awst, ac wrth sgwrsio â’r Selar maent wedi datgelu bod y record bron iawn yn orffenedig, ond eu bod dal angen penderfynu ar glawr!

Mai ‘di bod yn haf prysur o ryddhau gan ddegau o artistiaid a braf yw cael rhywbeth i edrych ymlaen ato ar ôl i’r haf ddirwyn i ben. Bydd Casset yn chwarae gyda Meic Stevens yn ogystal â Mari Mathias yng Ngŵyl Glyndŵr ym Machynlleth nos Sadwrn.

Cadwch eich clustiau’n ‘gored!

 

Un peth arall...: Criw o Nant Peris yn chwilio am drefnwyr gigs

Mae criw o Nant Peris wedi cyhoeddi ar Twitter eu bod yn chwilio am unigolion i fod yn ran o’u cynlluniau i drefnu mwy o gigs Cymraeg yn yr ardal.

Mae cyfle i gael y profiad o bwcio bandiau i chwarae, chwilio am grantiau, dylunio posteri, hyrwyddo, rheoli sain neu stiwardio mewn gigs – perffaith i bobl ifanc sy’n chwilio am brofiad yn y maes. Maent hefyd yn chwilio am fandiau i chwarae yn yr ardal.

Os oes diddordeb cysylltwch â’r criw dros e-bost - Marged_3@hotmail.com.  

Band o’r fro fu’n llwyddiannus yn yr Eisteddfod ‘leni oedd Alffa, y grŵp ifanc o Lanrug a gipiodd deitl Brwydr y Bandiau.

Bu Dion a Sion yn gweithio’n galed ers y flwyddyn diwetha’, ac mae’n siŵr y byddan nhw’n agos at frig y rhestr pan ddaw at drefnu gig cyntaf y prosiect (ciw esgus i chwarae cân Alffa!)