Search site


Pump i’r Penwythnos 17 Mawrth 2017

17/03/2017 14:12

Beth ydy wythnos mewn cerddoriaeth? Wel, eitha’ lot i ddeud y gwir, ac mae gennym lwyth o ddanteithion cerddorol i chi ar gyfer eich penwythnos....

Gig: Psylence – Sinema Pontio, Bangor – Gwener-Sul 17-19 Mawrth

Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2017 yn dechrau penwythnos yma yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth gyda Mari Mathias yn herio Mosco a Steff Marc, cyn i Yr Eira gloi’r noson.

Yn y cyfamser, os ydach chi’n digwydd bod yn agos i Auxerre yn Ffrainc yna mae cyfle i chi weld Gwilym Bowen Rhys yn perfformio mewn cwpl o gigs!

Ond ein prif ddewis ni yr wythnos hon ydy rhywbeth bach yn wahanol, sef gŵyl ffilm a cherddoriaeth Psylence yn Sinema Pontio ym Mangor sy’n rhedeg o heno (nos Wener) nes dydd Sul. Dau uchafbwynt amlwg i ni ydy dangosiad ffilm Kiss gan Andy Warhol yn cynnwys perfformiad cerddorol byw gan Datblygu nos Wener, ac yna dangosiad o’r ffilm Earth gan Alexander Dovzhenko gyda trac sain wedi ei gyfansoddi a’i berfformio yn fyw gan R.Seiliog nos Sadwrn.

Mae’r digwyddiad yma’n siŵr o fod yn brofiad difyr ac unigryw iawn – peidiwch a cholli’r cyfle os ydach chi yn yr ardal.

Cân: ‘Dre ar ôl fy Hun’ – Argrph

Mor braf i glywed tiwns newydd gan Argrph ar ffurf sesiwn i raglen Georgia Ruth Williams bythefnos nôl, ac yna gweld rhain yn gwneud eu ffordd i Soundcloud y grŵp yr wythnos hon.

Bydd rhai’n cofio i Argrph ryddhau eu sengl cyntaf, ‘Tywod’, fel rhan o gynllun Senglau’r Selar nôl ym mis Hydref 2016. Maen nhw bellach yn gweithio gyda label gweithgar Decidedly Records, a gobeithio y gallwn ni edrych ymlaen at EP neu albwm yn fuan ganddyn nhw.

Yn y cyfamser, mae’r sesiwn yma’n damaid bach blasus i aros pryd. Mae’r sŵn syrff cyfarwydd a gyflwynwyd ar ‘Tywod’ i’w glywed ar y traciau newydd, ynghyd â’r sŵn llais diog nodweddiadol. Mae ‘na dair trac newydd o’r sesiwn, sef ‘Llosgi Me’, ‘Wrong Croen’, a’n ffefryn ni ‘Dre ar ôl fy Hun’:   

 

Artist: Meic Stevens

Roedd un o hoelion wyth gwirioneddol cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, Meic Stevens, yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed ddechrau’r wythnos, felly pa gyfle gwell i’w ddewis fel artist Pump i’r Penwythnos.

Mae Meic wedi bod yn ffigwr amlwg yn y byd cerddoriaeth Cymraeg ers pump degawd bellach. Roedd wedi dechrau gwneud enw i’w hun y tu hwnt i Gymru yng nghanol y 1960au, gan ddal sylw label mawr Decca a rhyddhau sengl aflwyddiannus gyda nhw ym 1965. Ar ôl dychwelyd i Gymru ym 1967, rhyddhaodd gyfres o EPs cyn mynd ati i ffurfio grŵp Y Bara Menyn gyda Geraint Jarman a Heather Jones, oedd yn grŵp dychanol yn gwneud hwyl am ben grwpiau Cymraeg eraill y cyfnod.

Yn fuan wedi hynny dechreuodd Meic wneud enw go iawn i’w hun wrth ryddhau ei albwm cyntaf, Outlander ym 1970 ar label enfawr Warner Bros. Record Saesneg oedd hon heblaw am un trac Cymraeg, ond daeth ei albwm Cymraeg cyntaf, Gwymon yn fuan wedyn ym 1972 – albwm sy’n dal i gael ei gydnabod fel un o’r goreuon yn yr iaith Gymraeg hyd heddiw.

Mae wedi rhyddhau’n agos at 30 o albyms hyd yma – rhai yn reissues neu gasgliadau – gyda’r diweddaraf, Love Songs, yn 2010.

Mae’n dal i gigio’n weddol rheolaidd hefyd, ac mae’n perfformio yn un o Gigs y Gwach ym Mhontardawe heno gyda’i gyfaill oes Heather Jones.

Dyma’r unig drac Cymraeg oedd ar ei albwm cyntaf, Dau Rhosyn Coch:

 

Record: Anrheoli – Yws Gwynedd

Fel arfer byddwn ni’n dewis record sydd unai wedi ei ryddhau, neu’n cael ei ryddhau yn yr wythnos dan sylw...ond yr wythnos yma, rydan ni am roi sylw i albwm sydd heb ddod allan eto!

Ond gan mai albwm newydd neb llai na siwpyr star mwyaf yr SRG, neu’r ‘Bryn Fôn Newydd’, Yws Gwynedd sydd dan sylw, debyg y gallwch faddau i ni.

Mae rheswm da dros roi sylw i ail albwm Yws hefyd, sef bod modd rhag archebu’r record erbyn hyn. Rŵan, os ydach chi wedi darllen cyfweliad Yws yn rhifyn diweddaraf Y Selar byddwch chi’n gwybod nad oedd wedi gorffen recordio’r albwm ar y pryd, ac roedd bach yn amwys ynglŷn ag a fyddai’r copïau caled ar gael mewn pryd i’r gig lansio yng nghanolfan Pontio ym Mangor ar 7 Ebrill.

O weld Yws yn hyrwyddo’r ffaith bod modd archebu’r record yr wythnos hon, rydan ni’n amau bod yr arwyddion yn dda.

Mae Yws eisoes wedi rhyddhau cwpl o draciau’r albwm fel senglau, ‘Anrheoli’ a ‘Sgrin’, sef enillydd fideo gorau Gwobrau’r Selar wrth gwrs. 

 

Ac un peth arall...: Casetiau a ‘Geiriau’ Neb

Bu i ni roi sylw i sengl newydd Twinfield, ‘Taxol’, fel rhan o Pump i’r Penwythnos wythnos diwethaf, gan sôn hefyd nad oedd y copïau casét oedd yn cael eu rhyddhau gan label Neb yn barod eto’n anffodus.

Mae Neb bellach wedi cyhoeddi bydd y castiau ar gael i’w harchebu ar siop arlein y label am 12:00 ar ddydd Sul 26 Mawrth. Mae’r ddau gasét blaenorol gan Twinfield wedi gwerthu’n gyflym, felly peidiwch oedi cyn archebu.

Gwerth eich hatgoffa hefyd bod EP Ani Glass, Ffrwydriad Tawel, yn cael ei ryddhau gan Neb ar 21 Ebrill. Mae Ani wedi datgelu sengl o’r EP, ‘Geiriau’, heddiw...a dyma hi: