Search site


Pump i’r Penwythnos 20/10/17

20/10/2017 11:38

Gig: Diwrnod Darganfod Gŵyl Sŵn – 21/10/17

Mae’n benwythnos prysur arall i gerddoriaeth cyfoes, gyda chryn dipyn ymlaen rhwng pob dim.

Yn ngwesty’r Llew Du yn Nhal-Y-Bont ger Aberystwyth nos Wener bydd Alys Williams a’r Band yn chwarae – un sydd hefyd ar fin gweithio ar ganeuon newydd yn y stiwdio.

Nos Wener yng Nghlwb Ifor Bach mae Twrw’n cynnal gig sy’n cynnwys Y Niwl, Mellt, Papur Wal a DJ Dilys – bydd Y Niwl hefyd yn chwarae nos Sadwrn yn Mhontio, lle y byddan nhw’n lansio eu halbwm ‘5’. Hefyd nos Wener bydd Chroma’n cefnogi Peace yn Tramshed, fel rhan o Ŵyl Sŵn.

Dydd Sadwrn mae Diwrnod Darganfod – Gŵyl Sŵn yn digwydd yng Nghaerdydd efo Yr Eira’n perfformio yn ogystal a llwyfan ar gyfer artistiaid Libertino.

Bydd Candelas yn dychwelyd i un o’u holl leoliadau yn Lanidloes nos Sadwrn mewn gig yn y Clwb Pêl-Droed efo’u ffrindiau da, Y Cledrau yn chwarae hefyd.

 

Record: Horses - Horses LP

Mae albwm newydd Horses allan yn swyddogol heddiw ar Recordiau Labellabel, dyma fydd eu halbwm cyntaf.

Fe chwaraewyd cân ‘Y Mur (DMZ)’, sydd o gwmpas ers sawl blwyddyn ond fydd ar yr albwm, ar rhaglen Lisa Gwilym nos Fercher.

Rhyddhawyd EP cyntaf Horses ar label Peski (heddwch i’w llwch) dros dair blynedd yn ôl erbyn hyn, a honno’n cynnwys y gân boblogaidd ‘Kephylau’ ganddynt.

Mae’r albwm allan yn ddigidol.

I gael blas o’r sŵn, cymrwch gip ar eu EP cyntaf fan isod...

 

Cân: ‘Cymylau’ - Band Pres Llareggub ac Alys Williams

Fe gawsom ni rodd fach annisgwyl gan Band Pres Llareggub wythnos diwetha’, wrth i’r gân freuddwydiol yma ymddangos ar y wê. Trac oddi ar yr albwm a fydd allan yn swyddogol fis Rhagfyr yw hi, sef trydydd albwm Band Pres Llareggub.

Nid dyma’r tro cyntaf i Alys Williams gyd-weithio â’r Band Pres, gan gofio am eu cân boblogaidd gyda’i gilydd sef ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’.

Mae modd gwrando ar yr albwm newydd, a’i rag-archebu ar eu safle Bandcamp yn barod. Mae sî y bydd y record efallai’n cael ei rhyddhau ar feinyl hefyd...

 

Artist: Argrph

Newyddion gwych ydy hwnnw bod mwy o gynnyrch yn cael ei ryddhau’n fuan iawn gan y band sy’n ran canolog o chwyldro’r gorllewinol gwyllt yng Nghaerfyrddin - Argrph.

Dyma fand sy’ ‘di tyfu’n boblogaidd dros y flwyddyn ddiwetha’, a sy’n rhan o dylwyth Recordiau Libertino. Bydd cyfle i’w gweld y penwythnos yma ar lwyfan Libertino’n sy’n rhan o’r Diwrnod Darganfod Gŵyl Sŵn gan Huw Stephens.

Mae sengl ddwbl ar y ffordd ganddynt sef ‘Llosgi Me / Llawn’, ac mae posib gwrando arnynt ar y ŵe gan fod Huw Stephens wedi cael yr anrhydedd o’u chwarae am y tro cyntaf ar y radio neithiwr, 19 Hydref. 

Dyma’r sengl ddiweddara’ ganddynt, ‘Cymorth’

 

Un peth arall..: I’r rhai a fethodd Gig y Pafiliwn 2017

Nid yn aml y cewch chi weld cerddorfa’n jamio i un o diwns Ed Holden – felly mae’n werth aros mewn nos Sadwrn, bron, er mwyn profi’r peth.

Bydd uchafbwyntiau un o nosweithiau mwyaf llwyddiannus Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 ar gael i’w gweld ac ail-fyw nos Sadwrn 21 Hydref yma ar S4C am 19:30. Dyma gyfle i unrhyw un nad oedd yn ddigon ffodus i gael tocyn i Gig y Pafiliwn, neu unrhyw un sydd eisiau ail-fyw’r noson gofiadwy a gynhaliwyd ar nos Iau yr Eisteddfod weld yr uchafbwyntiau. Gwerthwyd allan y sioe am yr ail flwyddyn yn olynol, efo’r tocynnau bron mor brin a thocynnau Beyonce.

Dyma’r ail flwyddyn i’r Eisteddfod Genedlaethol gynnal gig cyfoes yn y Pafiliwn gyda cherddorfa’r Welsh Pops Orchestra, a rhai o fandiau mwyaf adnabyddus y sin gerddoriaeth Gymraeg ar y funud. Cofiwch wylio i weld Yws Gwynedd, Alys Williams a’r Band, Yr Eira ac Ed Holden yn perfformio gyda cherddorfa fyw! Ond os ydach chi’n mentro i un o’r gigs uchod, gallwch wylio eto ar Clic fore Sul!