Search site


Pump i’r Penwythnos 21 Ebrill 2017

21/04/2017 13:55

Ys dywed Plant Duw ‘slawer dydd...distewch, llawenhewch, dyma’ch Pum i’r Penwythnos!

Gig: Lleuwen, Tegid Rhys – Neuadd Llangywer – Gwener 21 Ebrill

Ambell gig bach neis penwythnos yma, gan gynnwys nifer o berfformiadau i nodi Diwrnod Siopau Recordiau Annibynnol ddydd Sadwrn. Mae Chroma ac Aled Rheon yn perfformio yng Nghasnewydd fel rhan o’r dathliadau – bydd Chroma yn The Riverfront yn cefnogi Monica Blonde, ac Aled Rheon yn Charles Street gyda Dan Bettridge ac eraill.

Nos Wener mae’r Welsh Whisperer a Hywel Pitts yn adlonni yn eu ffyrdd di-hafal yn Llofft, Fic Llithfaen.

Nos Sadwrn, mae gig lansio EP cyntaf Ani Glass yng Nghlwb Ifor Bach gyda’r ardderchog Twinfield yn cefnogi. Ac os ydach chi’n digwydd bod ym Mryste dros y penwythnos mae Lastigband yn perfformio yn nhafarn yr Old England nos Sadwrn.

Ond ein dewis ni yr wythnos hon ydy’r hudolus Lleuwen yn Neuadd Llangywer, sy’n addo bod yn noson arbennig iawn. Y drwg ydy, mae’r Selar yn deall bod tocynnau wedi gwerthu allan, felly os nad oes ganddoch chi un, gwell i chi beidio mentro draw rhag cael eich siomi

 

Cân: ‘Pam fod y môr dal yna’ – Tegid Rhys

Mae’r Selar eisoes wedi rhoi bach o sylw i sengl newydd Tegid Rhys yr wythnos hon, ac wedi bod yn sgwrsio gyda’r cerddor o Lŷn sydd bellach wedi ymgartrefu dros y môr ym Môn. Ond, gan ein bod ni mor hoff o’i diwn fach newydd, rhaid oedd ei dewis fel cân Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon.

Dyma ail sengl Tegid, yn dilyn ‘Terfysg Haf’ a rhyddhawyd rhyw fis yn ôl.

Mae hon fel y gyntaf wedi’i recordio yn Stiwdio Drwm, gydag Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn cynhyrchu.

Dyma chi faled fach neis iawn gyda sŵn bas dwbl a gitâr bedal ddur yn cynnig cyffyrddiadau hyfryd.

 

Artist: Lastigband

Lastigband ydy’r grŵp sy’n gyfuniad o gyn-aelodau Sen Segur ac aelodau Memory Clinic, ac mae ganddyn nhw bythefnos fach brysur i gloi mis Ebrill.

Bydd y grŵp yn rhyddhau eu EP cyntaf, Torpido, penwythnos nesaf gyda gig lansio fel rhan o arlwy Pesda Roc yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar nos Sadwrn 29 Ebrill.

Fel rydan ni eisoes wedi sôn, maen nhw’n perfformio ym Mryste ddydd Sadwrn yma gyda Memory Clinic ac Umi, ac fe fyddan nhw’n perfformio hefyd  nos Wener nesaf yn Neuadd Tyn y Porth, Penmachno gydag Argrph a Phalcons.

Mae’r EP allan ar label Recordiau Cae Gwyn, ac mae’r trac ‘Jelo’ ar gael i’w chlywed ar Soundcloud Lastigband nawr. 

 

Record: Ffrwydrad Tawel – Ani Glass

Mae gymaint o heip a chyffro wedi bod dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn ag EP cyntaf Ani Glass, mae’n teimlo fel ei bod allan erstalwm!

Mae’r EP newydd yn cael ei rhyddhau gan label Recordiau Neb, a rhyw dair wythnos yn ôl fe we-ddarlledodd y label sesiwn fyw o Ani’n perfformio caneuon yr EP.

Nos Fercher roedd Ani ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru yn trafod yr EP newydd, ac mae modd darllen cyfweliad â hi yn rhifyn cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Mae Ani a Neb yn sicr wedi taflu popeth at waith hyrwyddo’r record yma!

Ond, y penwythnos yma ydy lansiad swyddogol Ffrwydrad Tawel, a bydd y lansiad yn digwydd yng Nghlwb Ifor bach nos Sadwrn wrth i Ani berfformio gyda chefnogaeth gan un arall o stabl Neb, Twinfield. Noson dda i unrhyw un sy’n hoffi bach o gerddoriaeth pop electronig arbrofol heb amheuaeth.

Rydan ni’n hoff iawn o’r hyn rydan ni wedi’i glywed o’r EP, ac mae’r sengl ‘Geiriau’ wedi cael adolygiad ffafriol iawn gan gylchgrawn DIY. Mae nifer cyfyngedig o gopïau o’r EP ar werth ar wefan Recordiau Neb nawr. 

 

 

Ac un peth arall...: Podlediad I Ka Ching

Mae’n ddwy flynedd ers podlediad diwethaf Recordiau I Ka Ching, ond mae pethau da’n dod i’r rhai sy’n aros yn ôl y sôn.

Branwen ‘Springs’ Williams sy’n cyflwyno’r podlediad, ac mae’n cynnwys diweddariadau gan nifer o artistiaid y label. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf am albwm Yr Eira gan y ffyntman, Lewys Wyn; gair gan Huw M am ei flwyddyn brysur yn hyrwyddo albwm Utica; Alun ac Ifan o’r Cledrau yn sôn am beth sydd ar y gweill gan y grŵp, a phytiau bach difyr gan swp artistiaid eraill o stabl y label.

Gwerth hanner awr gan o’ch amser prin yn sicr