Search site


Pump i’r Penwythnos 21 Hydref 2016

21/10/2016 13:53

Dyma’ch argymhellion cerddorol wythnosol gan griw Y Selar.

Gig: HMS Morris, Chroma, Los Blancos, DJ Pentre Coll – Y Parot, Caerfyrddin. Nos Wener 21 Hydref

Mae ‘na dipyn o ddewis o gigs ardderchog y penwythnos yma i chi, ac mae hynny’n thema gyson yn ddiweddar – da o beth am hynny.

Mae’n siŵr mai digwyddiad amlycaf y penwythnos ydy Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd, gyda llwyth o gerddoriaeth wych mewn lleoliadau amrywiol ledled y ddinas. Dyma ddegfed blwyddyn yr ŵyl a drefnir gan Huw Stephen a John Rostron, a gallwch weld yr amserlen lawn ynghyd â’n hargymhellion ni mewn darn bach blaenorol ar y wefan.

Ein dewis o gig wythnos diwethaf oedd gig agoriadol taith Make Noise Cymru yng Nghaerfyrddin, ac mae’r daith sy’n cynnwys Stealing Sheep, R. Seiliog a’r tro yma Ani Glass yn ymweld â Le Pub yng Nghasnewydd nos fory (Gwener).

Er i ni ddewis gig yn Y Parot yng Nghaerfyrddin wythnos diwethaf, allwn ni ddim â pheidio dychwelyd i’r ganolfan gigs arbennig yma ar gyfer y cymal diweddaraf yn nhaith hydrefol HMS Morris. Mae ‘na leinyp difyr iawn i’r gig yma a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith gyda chefnogaeth gan enillwyr Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod, Chroma, a’r grŵp newydd lleol rydan ni’n hoff iawn ohonyn nhw, Los Blancos.

Cân: ‘Camau Gwag’ – Cadno

Mae hon allan fel rhan o sengl ar y cyd gyda’r grŵp Hyll – y ddau grŵp ifanc o Caerdydd yn rhyddhau wythnos diwethaf ar label JigCal.

Rydan ni wedi clywed tipyn o ganmol ar Cadno, ac roedden nhw wrth gwrs yn un o grwpiau rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Meifod llynedd, ynghyd â Hyll.

Mae ‘Camau Bach’ yn diwn bach neis, radio gyfeillgar ganddyn nhw – mae hi’n dechrau’n reit araf ond yn cicio mewn ar ôl rhyw funud ac yn atgoffa ni ‘chydig o The Cranberries oedd yn grŵp anhygoel o Iwerddon yng nghanol y 1990au. 

 

Artist: Griff Lynch

Er efallai’n aelod amlycaf Yr Ods, gellir dadlau mai Griff Lynch sydd wedi bod leiaf gweithgar yn gerddorol y tu hwnt i’r grŵp. Ond, mae ‘na si ar led ers peth amser bellach fod cyflwynydd Ochr 1 yn gweithio ar ganeuon newydd a’r wythnos hon mae label I Ka Ching wedi cyhoeddi bydd sengl gyntaf Griff allan yn ddigidol ar 28 Hydref.

‘Hir Oes Dy Wên’ ydy enw’r sengl newydd, ac fe gafodd ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Huw Stephens neithiwr (nos Iau).

Tydi’r sengl newydd ddim ar gael i’w chwarae ar-lein eto, ond mae ‘Sŵn’ a lwythwyd ar Soundcloud gan Griff rhyw flwyddyn yn ôl...

 

Record: Fragile EP – Melys

Debyg bod Melys yn enw cymharol anghyfarwydd i ddarllenwyr iau, ond bydd unrhyw un oedd yn dilyn cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ar ddiwedd y 1990au a dechrau’r mileniwm yn gwybod yn union pwy ydyn nhw.

Grŵp gwych o Ddyffryn Conwy oedd Melys, yn cael eu harwain gan Andrea Parker oedd yn canu, a’i phartner Paul Adams. Roedden nhw’n un o’r bandiau hynny oedd yng nghanol bwrlwm ‘Cŵl Cymru’ – heb lwyddo i’r fath raddau a Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s, ond rhyw un rheng yn is gyda Topper a Big Leaves. Rhyddhawyd eu stwff cynharaf nhw, gan gynnwys yr EP 4 trac yma, Fragile, ar label Ankst ond fe wnaethon nhw hefyd  ryddhau ar Arctic Records a’u lebel eu hunain, Sylem.

Fragile oedd EP cyntaf Melys a ryddhawyd ym 1996 ac mae gofiadwy yn rhannol oherwydd y clawr oedd yn dangos llun o fol beichiog Andrea gydag enw’r EP wedi’i ysgrifennu arno.

Mae Melys yn chwarae eu gig cyntaf ers amser maith penwythnos yma yng Ngŵyl Sŵn – gallwch eu gweld nhw am 21:45 nos Sadwrn yn ‘The Big Top’.

Roedd DJ chwedlonol Radio 1, John Peel, yn ffan a dyma fo’n chwarae ‘Noeth’ o’r EP. 

 

Ac un peth arall...: Gig y Pafiliwn ar S4C

I unrhyw un oedd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos y Steddfod yn Y Fenni eleni, does dim amheuaeth mai perfformiad Candelas, Yr Ods a Sŵnami gyda’r Welsh Pops Orchestra oedd uchafbwynt cerddorol yr haf.

Newyddion da felly i chi oedd yno, a’r rhai oedd ddim, gan bod cyfle i be ddiawl oedd yr holl ffys amdano wrth i S4C ddarlledu uchafbwyntiau’r cyngerdd nos Sadwrn yma am 20:30.

Dyma’r trêl...