Search site


Pump i’r Penwythnos 23 Mehefin 2017

23/06/2017 20:30

Mae ‘na lwyth o bethau cerddorol gwych yn digwydd wythnos yma, felly dyma’ch awgrym wythnosol o’r hyn y dylech gadw golwg amdano.

Gig: Gŵyl Gerdd Snowdon Rocks - The Heights, Llanberis – Sadwrn a Sul 24-25 Mai

Does ‘na ddim prinder gigs Cymraeg yn ddiweddar, a phob penwythnos i’w gweld yn reit llawn. Mae hynny’n wir unwaith eto yr wythnos hon, a da o beth ydy hynny.

Fel wythnos diwethaf, mae ‘na gwpl o wyliau yn digwydd yr wythnos hon gan gynnwys Gŵyl Maldwyn yn y Cann Office, Llangadfan. Mae Ar Log a Dafydd Iwan yn perfformio heno, a nos fory bydd Sŵnami’n arwain lein-yp sy’n cynnwys Casset a Mosco.

Mae gig da yn Y Parrot yng Nghaerfyrddin gydag Adwaith a Los Blancos yn cefnogi The Tates, sy’n cael tipyn o sylw ar lefel Prydeinig ar hyn o bryd. Mae’n debyg bod tocynnau wedi gwerthu allan yn barod, felly gwell peidio mentro os nad ydach chi wedi bachu un.

Mae criw MADolgellau yn cynnal eu gig diweddaraf yn Nhŷ Siamas, Dolgellau heno gyda Ffracas, Hyll, DJ Mad yn chwarae, ac yng Nghroesor mae Twmffat, Phil Lee Bran a Jamie Bevan i’w gweld yn Oriel Caffi Croesor.

Bydd sawl gig nos Sadwrn hefyd gan gynnwys Mei Gwynedd a’i gyfeillion ym Mwyty Mӓe Maria, Treganna. Rhywbeth hollol wahanol yn Sir Gâr wedyn, sef Baldande a Welsh Whisperer yn Nawns Sioe Llanddarog.

Ond ein top tip ni yr wythnos hon ydy Gŵyl Snowdon Rocks yn Llanberis, sy’n cynnwys lein-yp trawiadol i ddweud y lleiaf - The Christians a Mike Peters, Band Pres Llareggub Brass, Banda Bacana, Geraint Løvgreen a'r Enw Da, Sera Owen, Wynne Roberts a llawer mwy.

Cân: ‘Chwyldro bach dy hun’ – Gai Toms

Os ydach chi wedi darllen rhifyn diweddaraf Y Selar byddwch chi’n gwybod popeth am albwm diweddaraf Gai Toms, Gwalia.

Ers i’r Selar fynd i brint, mae Gai wedi cadarnhau y bydd yn lansio Gwalia yn Sesiwn Fawr Dolgellau ar 21 Gorffennaf. Yn y cyfamser, fel tamaid i aros pryd, mae Gai wedi rhyddhau sengl o’r albwm heddiw, sef ‘Chwyldro bach dy hun’

 

Artist: Los Blancos

Ers i ni ddarganfod y trac demo, ‘Clarach’ ar gyfer Pump i’r Penwythnos nôl ym mis Medi llynedd, rydan ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar i Los Blancos ryddhau rhywbeth yn ffurfiol.

O’r diwedd mae’r disgwyl bron iawn ar ben, gan bod Recordiau Libertino wedi cyhoeddi bod sengl gyntaf y grŵp o Sir Gâr i’w rhyddhau ar 17 Gorffennaf.

‘Mae’n Anodd Deffro Un’ ydy enw’r sengl, ac mae’n brawf os oedd angen o botensial anferth y band. Mae’r label yn disgrifio’r sŵn fel 'slacker, country’ sy’n ddigon teg, ond mae hefyd yn adlewychu dylanwadau grwpiau eraill y De Orllewin dros y blynyddoedd ac yn plethu’n daclus gyda’r symudiad cerddorol gwirioneddol gyffrous sy’n digwydd yn ardal Caerfyrddin ar hyn o bryd. Tiiiiwn

 

Record: Yr Oria

Rhyfedd meddwl bod llai na blwyddyn ers ffurfio Yr Oria. Maen nhw wedi creu argraff mawr mewn cyfnod byr gyda chyfres o senglau bachog sydd o bosib (angen checio hyn – gol) oll wedi eu dewis fel ‘Trac yr Wythnos’ ar Radio Cymru. Os ydyn nhw, allwn ni ddim dadlau â hynny – mae’r grŵp yma’n gwybod sy’n i sgwennu tiwn.

Yn ddiweddar, fe wnaethon nhw addo i’r Selar y byddai eu EP cyntaf allan erbyn diwedd mis Mehefin, a chwarae teg, mae’r hogia’n amlwg yn rai sy’n cadw at eu gair gan bod y casgliad byr allan heddiw!

Mae’r EP yn rhannu enw’r grŵp, ac ar gael i’w lawr lwytho’r ddigidol o’r mannau arferol.

Pump trac sydd, sef y senglau ‘Cyffur’, ‘Cyfoeth Budr’ a ‘Gelynion’, ac yna dwy gân newydd ‘Casglu Calonnau’ a ‘Rebals’.

Dyma’r sengl ddiweddaraf a ryddhawyd rhyw fis yn ôl, ac efallai anthem y casgliad, ‘Cyffur’:

 

Ac un peth arall...: Lansiad Llais

Mae Mr Phormula fel petai o ym mhobman ar hyn o bryd – erthyglau ar wefan Y Selar, clawr cylchgrawn Golwg, blogiau cerddoriaeth, heb sôn am ei ymweliadau di-baid ag ysgolion Cymru’n cynnal gweithdai bît-bocsio gwych.

Mae rheswm da am yr holl sylw, gan ei fod wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf, Llais, yr wythnos hon.  Darllenwch ein erthygl ar y wefan yn gynharach yr wythnos hon i gael y stori lawn ynglŷn â’r record hir newydd.

Chwarae teg i Mr Phormula, mae ganddo ddigon o ddewrder i roi tro ar bethau gwahanol ac roedd ei gig lansio ar gyfer yr albwm newydd neithiwr yn reit unigryw ac i’w barchu’n fawr. Os wnaethoch chi golli hyn, wel bu i Ed we-ddarlledu set byw o ganeuon yr albwm ar Facebook – ac roedd o’n ardderchog. Os nad ydach chi wedi gwylio’n barod, mae llawn haeddu 50 munud o’ch hamser.

Parch Edz