Search site


Pump i’r Penwythnos 24 Mawrth 2017

24/03/2017 14:16

Ie, mae’r penwythnos ar y gorwel unwaith eto felly dyma’ch danteithion cerddorol wythnosol gan Y Selar....

Gig: Ffug a Brwydr y Bandiau – Clwb Canol Dre, Caernarfon – Gwener24 Mawrth

Cwpl o gigs bach da, ond gwahanol iawn i chi yn ardal Caernarfon heno (nos Wener).

Mae Lleuwen yn perfformio yn Nghaffi Caban, Brynrefail yng nghwmni Owen Evans, gyda Tapas ar gael ond i chi ffonio i archebu.

Yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon wedyn mae’r ail yn y gyfres o rowndiau rhagbrofol Brwydr y Bandiau 2017. Criw 4 a 6 sy’n llwyfannu’r frwydr epig sy’n sicr o fod rhwng Alffa, Gwilym, Madarch a Carma. Ac i goroni’r noson, bydd set gan yr anhygoel Ffug.

Cân: ‘Dyn y Sêr’ – Glain Rhys

Bydd Glain Rhys yn gyfarwydd i rai wedi iddi ddod i’r amlwg yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016.  Fe gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth ar faes yr Eisteddfod yn Y Fenni, ble daeth Chroma’n fuddugol wrth gwrs.

Mae Glain yn dod yn wreiddiol o’r Bala ac mae ei cherddoriaeth yn weddol werinol ein naws ond gyda chyffyrddiadau pop mwy cyfoes.

Os wnewch chi ymweld a’i safle Soundcloud, mae wedi llwytho nifer o draciau dros y blynyddoedd diwethaf, ond dim yn ddiweddar iawn...nes wythnos diwethaf, pan ymddangosodd ‘Dyn y Sêr’. Dyma chi drac bach neis iawn gan Glain, sy’n atgoffa rhywfaint o sŵn Plu, all ddim ond bod yn beth da. Hyfryd iawn. 

 

Artist: Datblygu

Os wnaethoch chi ddarllen Pump i’r Penwythnos wythnos diwethaf fe fyddwch chi’n gwybod bod Datblygu wedi perfformio set arbennig iawn fel rhan o arlwy Gŵyl Psylence yng Nghanolfan Pontio ym Mangor nos Wener.

Yn ystod y set hwnnw, mae’n debyg i Dave gyhoeddi mai hwnnw fyddai gig olaf Datblygu. Rŵan, mae bandiau’n cyhoeddi ‘gigs olaf’ yn ddigon rheolaidd...dim ond i ail ymddangos rai misoedd/blynyddoedd yn ddiweddaraf. Does wybod sawl gig olaf gafodd Edward H, heb sôn am Dafydd Iwan.

Mae rhywun yn cael y teimlad bod Dave yn foi i’w gymryd mymryn yn fwy o ddifri ac er ein bod yn gobeithio gweld Datblygu ar lwyfan eto, mae’n briodol i dalu rhywfaint o deyrnged i’r grŵp arloesol yma.

Cyfle da felly i gyflwyno un o ganeuon gorau Datblygu yn ein barn ni, ‘Cyn Symud i Ddim’ - gwrandwch arni dair gwaith cyn penderfynu os ydach chi’n ei hoffi neu beidio (rydan ni’n reit siŵr y byddwch chi)

 

Record: Tân – Lleuwen

Gan bod Lleuwen yn perfformio yn Nghaffi Caban, Brynrefail heno, pa gyfle gwell i roi sylw i un o albyms y gantores hynod hon.

Rhyddhawyd Tân ar label Gwymon yn 2011, yn ddilyniant i albwm cyntaf o ganeuon gwreiddiol Lleuwen, Penmon, yn 2007.

Mae’n gasgliad hyfryd iawn o ganeuon gan y ferch o Rachub. Roedd Tân yn wythfed safle ’10 Uchaf Albyms 2011’ Y Selar a gyhoeddwyd yn rhifyn Ebrill 2012 ac yng ngeiriau Casia Wiliam wrth adolygu mewn rhifyn blaenorol o’r cylchgrawn “mae’r albwm yn gyfanwaith, fel gwrando ar rywun yn adrodd stori ac iddi sawl pennod.” Mae Casia’n dallt ei stwff.

Yr olaf ond un o ganeuon yr albwm ydy ‘Breuddwydio’ – trac syml, ond aruthrol o brydferth sydd i fyny yna gyda baledi gorau ei thad, Steve Eaves.

 

Ac un peth arall...: Rhyddhau leinyp Tafwyl

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi sefydlu ei hun fel un o bwys o safbwynt cerddorol, gyda lein-yp nodweddiadol gry’.

Cyhoeddwyd lein-yp Gŵyl 2017 ddoe, gydag Yws Gwynedd, Geraint Jarman, Candelas ac Y Niwl ymysg y prif enwau.

Mae’r ŵyl yn symud o Gastell Caerdydd i leoliad newydd Caeau Llandaf eleni, ar benwythnos 1-2 Gorffennaf. Un i’r dyddiadur yn sicr.