Search site


Pump i’r Penwythnos 27 Gorffennaf 2017

28/07/2017 14:31

Gig: Omaloma a Phalcons yn Conwy Falls, Pentrefoelas

Mi fydd Candelas yn denu torf i Gorwen nos Sadwrn ar gyfer y digwyddiad blynyddol ar ôl y Sioe Frenhinol ‘Cneifio Corwen’, yn siediau Rhug penwythnos yma. Da ni’n deall ei bod hi’n bosib prynu tocyn ar y drws, felly be well na ‘chydig o gneifio, yfed a roc a rol?

Os hoffech noson dawel yn cicio hi nôl hefo’ch ffrindie’n Nyffryn Conwy, mi fydd Phalcons ag Omaloma’n hudo’r gynulleidfa yn Conwy Falls ger Pentrefoelas, a rheswm da arall i fynd yno - mi fydd hi’n noson bitsa!

Os nad ydech wedi derbyn y newyddion am gig Yws Gwynedd yng Nghaernarfon yn cael ei ganslo, a wedi prynu tocyn – na phoener gan bod ad-daliad i chi. Y rheswm am ganslo’r gig oedd gan bod dim digon o docynnau wedi gwerthu yn anffodus – y wers ydy prynwch docynnau ymlaen llaw i helpu trefnwyr gyfeillion. Ymlaen i’r ‘Sdeddfod!

Mi fydd Gŵyl Trefynwy’n cychwyn nos Sadwrn, a bydd y dathliadau’n parhau nes y 5 Awst. Hefyd, os fyddwch chi ochre’ Wrecsam y penwythnos ‘ma mi fydd Wrexfest hefyd ‘mlaen tan ddydd Sul.

Digonedd o ddewis! Ac yr olaf – mi fydd Gŵyl Gwrw Llŷn ym Mragdy Nefyn hefo bandiau rhwng 1-7 p.m dydd Sadwrn sef Gwilym Bowen Rhys, Gwerinos, Patrobas, Bwncath, a Jac Dobson a’r Band.

 

Cân: Bodoli - Mabli Tudur

Fe ryddhaodd Mabli gân newydd ar Soundcloud wythnos diwetha’, un sy’n ein rhoi mewn teimlad hafaidd iawn o’r enw ‘Bodoli’.

Mae Mabli’n un go newydd i’r sîn, wrth iddi fod â’i band dim ond ers mis Chwefror. Newyddion cyffrous felly oedd bod Mabli yn un o’r chwech a gyrhaeddodd y rownd derfynol ym mrwydr y bandiau ‘leni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar lwyfan perfformio’r maes ddydd Mercher yr Eisteddfod, a’r enillydd wedyn yn cael y cyfle i chwarae ar lwyfan Maes B ar y nos Sadwrn olaf.

Bu Mabli yn westai ar rhaglen Lisa Gwilym nos Fercher yn sôn am ei gyrfa hi fel cerddor ifanc, un sydd wedi bod yn cyfansoddi ers yr oedd hi’n 16.

Mi fydd Mabli’n perfformio pum cân ar y noson, pob lwc iddi a’r cystadleuwyr eraill!

 

Artist: Adwaith

Mae’r triawd o Gaerfyrddin, Adwaith, yn wneud enw i’w hunain ar y funud, wrth iddynt gyhoeddi dyddiad rhyddhau eu sengl ddwbl penigamp sef ‘Lipstick Coch’ a ‘Femme’, fydd allan ‘rhaf yma ar Awst 25.

Mae eu dawn disglair o gysylltu’n emosiynol ac yn uniongyrchol â’r gwrandawr trwy eu cerddoriaeth yn amlwg ac yn fyw iawn wrth chwarae’u melodïau personol. Disgrifir y senglau gan Recordiau Liertino fel cychwyniad newydd i’r band o ran y sŵn, sydd â dylanwadau megis The Slits, yn enwedig ar y gân ‘Lipstick Coch’.

Fe sonnir yng ngeiriau’r caneuon am ffeministiaeth a’r rhywiaeth y profon nhw fel merched ifanc. Maent yn eiriau dewr, a chreadigol o safbwynt gerddorol a geiriol – sy’n adlewyrchiad o’r hyn mae’r band yn sefyll drosto.

Mae’r sengl ddwbl ar gael i glywed ar SoundCloud Libertino rŵan – cymerwch sbec. Yn y cyfamser, dyma ‘Femme’:

 

Record: Cysgod Cyfarwydd - Mellt

Mae’r triawd o Aberystwyth, Mellt, newydd orffen recordio eu halbwm newydd, a’r gobaith ydy rhyddhau ar label JigCal yn hwyrach yn y flwyddyn.

Aelodau Mellt ydy Glyn Rhys-James (gitâr a phrif lais), Ellis Walker (bas a llais cefndir), a Jacob Hodges (dryms). Ffurfiwyd y grŵp yn wreiddiol yn Aberystwyth dan yr enw Y Gwirfoddolwyr, cyn newid i Mellt yn haf 2012.

Dyma fydd record hir gyntaf y band.

Recordiwyd y caneuon yn Stiwdio Seindon yng Nghaerdydd, gyda Mei Gwynedd yn cynhyrchu.

Yn ôl gitarydd a phrif ganwr y grŵp, Glyn Rhys-James, fe wnaethon nhw orffen y gwaith recordio ddydd Sul diwethaf (23 Gorffennaf). Y bwriad ydy rhyddhau’r casgliad ym mis Medi “o gwmpas pryd mae’r myfyrwyr nôl yng Nghaerdydd”.

Bu’r band, sydd hefo sŵn tebyg i The Smiths, hefyd yn rhan o gynllun Gorwelion y BBC, nôl yn 2015.

Esgus delfrydol i wrando eto ar eu EP cyntaf, Cysgod Cyfarwydd, a ryddhawyd yn 2014 felly. Gallwch wrando ar y record fer yn llawn ar Soundcloud.

Dyma’r ardderchog ‘Beth yw dy Stori’ o’r EP hwnnw:

 

Ac un peth arall..: Plant Duw yn gwneud comeback ar gyfer ‘Sdeddfod Môn

Bydd y grŵp poblogaidd o Fangor yn ail-ymddangos ar gyfer nos Sadwrn ola’r ‘Sdeddfod ‘leni, fel gwestiai arbennig yn gig Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg. Dyma’r gig cyntaf i Plant Duw chwarae ers pedair mlynedd.

 

Daw’r grŵp pump aelod yn wreiddiol o Fangor  -  Elidir Jones (gitâr fas), Conor Martin (gitâr a phrif lais), Rhys Martin (gitâr a llais), Myfyr Prys (Dryms) a Sean Martin (cornet) ydy’r aelodau

 

Roedd dirgelwch mawr ynghylch y marc cwestiwn ar lein-yp nos Sadwrn Cymdeithas, ac yn sicr ni siomwyd pan ychwanegwyd enw Plant Duw tuag ato.

 

Mae’r lein-yp ardderchog eisoes yn cynnwys Geraint Jarman, Gai Toms, ac yn amlwg, tydi hi’m yn nos Sadwrn ola’ gigs Cymdeithas heb Bob Delyn a’r Ebillion yno. 

 

Mae tocynnau nosweithiau gigs Cymdeithas yn brysur gwerthu allan, hefo dwy o’r nosweithiau hynny wedi yn barod, felly bachwch rhai i’r noson arbennig yma ar unwaith cyn iddi fynd rhy hwyr!

I ddathlu atgyfodiad Plant Duw (...gweld be da ni di gneud fana?) dyma efallai’r fideo miwsic gorau yn yr iaith Gymraeg erioed: