Search site


Pump i’r Penwythnos 28 Hydref 2016

28/10/2016 17:24

Dyma’ch argymhellion cerddorol wythnosol gan griw Y Selar.

Gig: Meic Stevens, Omaloma, Elidyr Glyn – Clwb Canol Dre, Caernarfon. Nos Sadwrn 29 Hydref

Mae criw nosweithiau 4 a 6 yn hen gyfarwydd â chynnal gigs gwych yng Nghaernarfon, ac mae lein-yp y diweddaraf o’u gigs rheolaidd yng Nghlwb Canol Dre yn un sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.

Enillydd cyntaf tlws coffa Alun Sbardun, Elidyr Glyn, sy’n agor y noson cyn i Omaloma swyno gyda’i synau seicadelig.

A’r uchafbwynt wrth gwrs, Meic Stevens, mewn ymddangosiad prin y dyddiau yma sy’n cloi. Chwip o noson. 

 

Cân: ‘Pwysau’ – Adwaith

Rhyddhawyd sengl gyntaf y grŵp o Gaerfyrddin yn ystod yr wythnos ac mae’n diwn bach neis iawn gan ferched Adwaith.

Hon ydy’r drydedd sengl i’w rhyddhau gan y label newydd sbon, Recordiau Decidedly, ac mae ar gael i’w lawr lwytho am ddim felly byddai’n bechod i ni beidio â’i dewis fel cân yr wythnos.

Mae’r Selar wedi bod yn sgwrsio gyda Gwenllian Anthony o’r grŵp yn ystod yr wythnos, a gallwch ddarllen mwy am y sengl yn ein darn newyddion

 

Artist: Mosco

Ychydig iawn rydan ni’n gwybod am Mosco, heblaw bod llais eu canwr Huw Owen yn siŵr o fod yn gyfarwydd i lawer o blant dan 7 oed Cymru!

Ta waeth am hynny, sŵn roc ysgafn sydd gan band, alawon digon bachog sy’n cael eu harwain gan riffs gitâr pwerus, ac mae’r prif lais yn sicr yn gryf.

Maen nhw’n chwarae yn Scholars, Aberystwyth nos Sadwrn gydag un o’n hoff grwpiau ifanc ni, Alffa – gig am ddim hefyd, a be gewch chi am ddim dyddiau yma? Ewch draw am gip os ydach chi o fewn cyrraedd i Aber.

Dyma Tân Oer i roi blas i chi...

 

Record: Hope Not Hate - Amlgyfrannog

Fel rheol, fydden ni ddim yn dewis record sy’n cynnwys llwyth o ganeuon Saesneg yn fan hyn...ond mae ‘na lwyth o ganeuon Cymraeg ar y record yma hefyd sy’n cynnwys dim llai na 95 o draciau!

Bwriad yr albwm epig yma ydy codi arian ac ymwybyddiaeth o’r elusen ‘Hope not Hate’ sy’n hybu heddwch a goddefgarwch – clywch clywch.

Mae ‘na lwyth o amrywiaeth ar y casgliad yma sydd ar gael i’w lawr lwytho am ddim ond £5 ar Bandcamp Hope Not Hate gan gynnwys traciau gan Datblygu, HMS Morris, Adwaith, Argrph, Anrhefn, Mellt, John Lawrence, Fflur Dafydd, The Gentle Good, Carw, Mwstard, Ysgol Sul, Siddi, FFUG, Yr Ods, Ani Glass, Aled Rheon, Cpt Smith a’r glasur yma gan Yr Ods.

 

Ac un peth arall...: Dyddiad Gwobrau’r Selar

Ma’n iawn i ni roi plyg i bethau’n hunain nawr ac yn y man, a rhag ofn i chi golli’r newyddion yn gynharach yn yr wythnos, rydan ni wedi cyhoeddi dyddiad Gwobrau’r Selar eleni.

Bydd y digwyddiad mawreddog, sydd erbyn hyn yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddoriaeth Cymraeg, yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ar benwythnos 17-18 Chwefror.

Mae’n mynd i fod yn glamp o benwythnos da, gyda chynlluniau i lwyfannu hyd yn oed mwy o gerddoriaeth byw, a llwytho weithgareddau eraill ...cadwch olwg am y newyddion diweddaraf ar ein ffrwd Twitter a thudalen digwyddiad Facebook Gwobrau’r Selar

Cofio llynedd?