Search site


Pump i’r Penwythnos 29/09/17

29/09/2017 12:32

Gig: Twrw - Yr Eira, Y Cledrau, Yr Oria – Twrw, Clwb Ifor Bach

Mae’n benwythnos boncyrs o brysur wythnos yma, efo dwy ŵyl yn cael eu cynnal yn y de, sef Gŵyl Ymylol Abertawe, a Gŵyl y Cynhaeaf yn Aberteifi.

Y Niwl fydd yn cau’r ŵyl yn Aberteifi, efo Gwilym Bowen Rhys a Lowri Evans a Lee Mason yn cefnogi. Mae’n debyg bod gan Y Niwl hefyd albwm ar y gweill, sef ‘5’ – cadwch olwg am fwy o newyddion am hyn.

Nos Wener 29 Medi bydd Alys Williams a’r Band yn y Galeri yng Nghaernarfon, ac ym mhen arall i’r wlad mae Twrw’n cynnal noson yng Nglwb Ifor Bach efo Yr Eira’n hedleinio, ac Y Cledrau ac Yr Oria yn cefnogi.

Bandiau sydd newydd ryddhau albyms newydd ydy Bob Delyn a’r Ebillion, a Bwncath – bydd y ddau fand yn chwarae’n Pontio ym Mangor heno, 29 Medi.

Mae gig gwych arall yn Y Parrot, Caerfyrddin nos Sadwrn 30 Medi efo Candelas, Breichiau Hir a Wigwam. Digon o ddewis unwaith eto wythnos yma!

Record: Llwch - Mei Emrys

Mae Mei Emrys yn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf, sef Llwch, heddiw, dydd Gwener 29 Medi. Dyma’r cynnyrch cyntaf iddo ryddhau’n ffurfiol ers cân Nadolig Vanta nôl yn 2009.

Meddai Mei wrth Y Selar ei bod yn “braf iawn” bod yn ôl, ac ei fod wir wedi mwynhau recordio gyda Rich Roberts yn stiwdio Ferlas. Bu Mei a Rich yn sôn ers tipyn eu bod yn mynd i recordio efo’i gilydd a da gweld y gwaith yn dwyn ffrwyth.

Bu Mei’n gigio’n acwstig dros yr haf, efo’i gig cyntaf fel ‘comeback’ yng Nghaffi Maes B yn yr Eisteddfod eleni.  Dywed Mei ei fod wedi derbyn “ymateb rili da” ac ei fod yn edrych ymlaen i chwarae mwy o gigs.

Bydd yn rhyddhau’r albwm newydd ar label Côsh, sef label Ywain Gwynedd, a dywed Mei bod Yws wedi bod yn gefnogol iawn iddo.

Mae’r clawr wedi’i ddylunio gan Celt Iwan a gafodd ei awgrymu fel dylunydd gan Yws Gwynedd.

Mae’n bosib prynu albwm Mei ar ei wefan nawr. 

 

Cân: ‘Draw’ – Gruff Siôn Pritchard

Mae’r Selar yn hoff o gadw golwg ar dudalennau SoundCloud aelodau Yr Ods, ac mae sawl un wedi bod yn brysur yn rhyddhau cerddoriaeth unigol dros y misoedd diwethaf.

Bu i Osian Howells ryddhau ei albwm cyntaf yn unigol wythnos yma, ac mae Griff Lynch wedi rhyddhau cyfres o senglau dros y flwyddyn ddiwetha, gan berfformio o dan ei enw ei hun am y tro cyntaf yn gynharach y mis yma yng Ngŵyl Rhif 6.

Mae Gruff Pritchard hefyd o’r grŵp hefyd yn rhyddhau cynnyrch tecno ar SoundCloud, ac fe lwythwyd cân newydd yno ganddo’r wythnos yma o’r enw ‘Draw’. Mae Gruff Pritch hefyd yn aelod o Carcharorion, sy’n rhyddhau cerddoriaeth electronig/tecno o bryd i’w gilydd.

 

Artist: Hywel Pitts

Ymysg y dewis helaeth o gigs ledled y wlad penwythnos yma, mae ‘na un bach sy’n siŵr o fagu llond bol o chwerthin yn Llŷn, wrth i’r ddeuawd gerddorol ddoniol Welsh Whisperer a Hywel Pitts ymweld â Thŷ Newydd Sarn.

Mae’r Welsh Whisperer yn hunan-hyrwyddwr o fri, ond un mwy cynnil ydy Hywel Pitts, er ei fod wrthi’n perfformio ei frand arbennig o gerddoriaeth-gomedi ers peth amser cyn y swynwr o Gwmfelin Mynach.

Mae Hywel hefyd yn aelod o I Fight Lions, sydd â sŵn reit wahanol i’w waith unigol. Mae hefyd, ynghyd â’i frawd Iwan, yn gyfrifol am y Podlediad PodPeth.

Debyg ei fod wedi ennyn mwy o ddilyniant yn ddiweddar diolch i’w ddeuawdau cofiadwy gyda’r Welsh Whisperer ar sianel Hansh, fel y faled hynod o hyfryd, ‘Yvonne’:

 

Un peth arall..: Alys Williams ac Osian Williams - noson i godi arian i Ŵyl Fwyd Caernarfon

Cofiwch fynd heibio Clwb Hwylio Caernarfon penwythnos nesa’, nos Sadwrn 7 Hydref - lle bydd y cyfle i glywed Alys Williams ac Osian Williams yn perfformio. Noson a gynhelir gan Ŵyl Fwyd Caernarfon ydy hon er mwyn codi arian tuag at y digwyddiad blynyddol.

Mae posib prynu tocynnau o Palas Print, Caernarfon am £10. Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ddigwyddiad sy’n denu torf fawr o bobl i’r Dre ers cwpl o flynyddoedd, a sy’n cynnwys arlwy gerddorol yn ogystal ag arlwy ymborth – ewch i gefnogi! Falle cewch gyfle i glywed hon ganddyn nhw...