Search site


Pump i’r Penwythnos 30 Medi 2016

30/09/2016 09:45

Dyma bump o bethau cerddorol i helpu gwneud eich penwythnos yn un perffaith.

Gig: Gig olaf Y Bandana (yn y De) - Clwb Ifor Bach, Caerdydd (Sadwrn 1 Hydref)

 Mae ‘na dipyn o gigs bach da y penwythnos yma gan gynnwys Mellt ac Ysgol Sul yn Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan nos Wener, a hefyd Ysgol Sul, Casset a Mosco yn y Cŵps, Aberystwyth...sydd hefyd nos Wener – noson brysur i Ysgol Sul glei! O’r hyn rydan ni’n deall, maen nhw’n chwarae yn Llanbed tua 8:00 ac yna’n anelu’n reit handi i Aber i fod ar y llwyfan erbyn 10:30 – pob lwc ar lonydd cefn Ceredigion bois!

Ond mae’n amhosib anwybyddu y gyntaf o ddau gig olaf Y Bandana, sef yr un yn y De, yng Nghlwb Ifor Bach Caerdydd. Mae’r grŵp ifanc bach da, Cadno, yn eu cefnogi nhw hefyd sy’n fonws bach.

Heb os un o’r bandiau byw mwyaf cyffrous o’r ddegawd diwethaf, ac yn sicr un o’r mwyaf poblogaidd – mae’n addo bod yn chwip o noson. Mae rhai tocynnau ar gael o hyd yn ôl gwefan Clwb Ifor wrth i ni deipio.

Cân: ‘Amcanu’ – CaStLeS

Newyddion cyffrous yr wythnos yma bod y grŵp gwych CaStLeS yn rhyddhau eu halbwm cyntaf yn mis Tachwedd. Yn wahanol i unrhyw beth arall yn y Gymraeg ar hyn o bryd, mae rhain yn un o top tips Y Selar felly cadwch olwg arnyn nhw.

Mae un o draciau’r albwm, ‘Amcanu’ i fyny ganddyn nhw ar Soundcloud i chi gael blas o’r hyn sydd i ddod – hoffi hon!

 

Band: R. Seiliog

Os nad ydach chi’n gw’bod am R. Seiliog, wel lle ydach chi wedi bod?! Artist electronig gwych sy’n dod yn wreiddiol o Ddinbych ydy Robin Edwards, a fo sy’n gyfrifol am R. Seiliog er ei fod o’n gwahodd ambell gyfaill i’r llwyfan efo fo wrth berfformio’n fyw.

Yr wythnos yma rydan ni wedi clywed bod R. Seiliog yn teithio fel rhan o daith ‘Make Noise Cymru’ ym mis Hydref a Tachwedd gyda gigs yng Nghaerfyrddin (14 Hydref), Casnewydd (21 Hydref), Caerdydd (22 + 23 Hydref), Aberystwyth (12 Tachwedd) a Phontypridd (25 Tachwedd). Mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Make Noise.

Roedd R. Seiliog hefyd ar raglen Ochr 1 nos Iau – gwerth gwylio ei diwns yn y stiwdio. 

Dyma hefyd fideo i’w gân Peripheral Thermal a gynhyrchwyd ar gyfer Ochr 1 yn 2014:

 

Record: Bendith

Na , tydi record prosiect Carwyn Colorama a Plu ddim allan yn swyddogol nes 7 Hydref...ond os wnaethoch chi ddarllen cyfweliad Y Selar gyda Carwyn ddechrau’r wythnos, byddwch yn gwybod bod modd prynu copi mewn siopau lleol yng Nghymru yn barod.

Mae adolygiad o’r albwm unigryw a hyfryd yma yn rhifyn diweddaraf Y Selar, ac rydan ni’n sicr yn ei argymell yn fawr. Mae’n llawn o ganeuon swynol braf, hiraethus ac wrth i’r hydref ddechrau cau amdanom ni bydd yn siŵr o’ch cynhesu gydag atgofion o hafau hirfelyn tesog eich plentyndod.

Cofiwch am eu gigs lansio penwythnos nesaf hefyd.

Dyma nhw'n perfformio un o ganeuon yr albwm, 'Danybanc' ar Stiwdio Gefn:

 

 

Ac un peth arall...: Bathodynnau HMS Morris

Da di HMS Morris ynde.

Rydan ni’n hoff iawn o gerddoriaeth Heledd Watkins a’i chriw, yn hoff iawn o’n perfformiadau byw arbennig nhw, ac yn hoff iawn o’u bathodynnau newydd!

Dyma lun isod y gwnaethon nhw drydar o’r bathodynnau cwyrci sydd, rydan ni’n tybio, ar gael yn gigs y daith maen nhw’n gwneud ym mis Hydref, sy’n dechrau yng Nghaerdydd ar 7 Hydref – nos Wener nesaf.