Search site


Pump i’r Penwythnos 31 Mawrth 2017

31/03/2017 14:13

Ydy, mae’r penwythnos wedi cyrraedd, felly dyma’ch pigion cerddorol wythnosol gan Y Selar....

Gig: Y Niwl, Beth Celyn – Clwb Rygbi Nant Conwy, ger Llanrwst – Sadwrn 1 Ebrill

Llwyth o ddewis o gigs penwythnos yma.

Mae Chroma yn hedleinio rownd rhagbrofol olaf Brwydr y Bandiau yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd heno (Gwener), neu hefyd yn y de gallwch chi ddal Delwyn Sion, Chwain a Morfa yng Nghlwb Y Bont, Pontypridd heno.

Mae ‘na gwpl o gigs bach da ym Mhenllyn heno hefyd, gydag Alys Williams a Wil Chidley yn Llofft @ Tafarn y Fic a hefyd Welsh Whisperer, Patrobas a Tegid Rhys yn Y Ganolfan, Nefyn.

Mae gig lansio sengl newydd Panda Fight yn Gassy Jacks, Cerdydd nos Sadwrn yn addo bod yn noson dda.

Ond ein dewis ni yr wythnos hon ydy gig prin i Y Niwl a hynny yn lleoliad Gŵyl Gwydir ‘slawer dydd, sef Clwb Rygbi Nant Conwy. Mae’r hudolus Beth Celyn yn cefnogi.

Cân: ‘Disgyn am yn Ôl’ – Yws Gwynedd

Mae’r cyffro ynglŷn ag albwm newydd Yws Gwynedd yn cynyddu’n ddyddiol wrth i ni agosáu at ei gig lansio mawreddog yng nghanolfan Pontio, Bangor wythnos nesaf.

Ac mae Yws yn brysur yn procio’r tân, ac mae wedi taflu lwmp go fawr o lo ar y fflamau wrth lwytho trac o’r albwm i’w safle Soundcloud ddoe (dydd Iau).

Fel y byddech yn disgwyl, mae ‘Disgyn am yn Ôl’ yn drac bach bywiog gyda lot o gyffyrddiadau clyfar – riff gitâr bach cofiadwy, percussion bywiog cyson a chytgan cofiadwy. Pop tiwn gwych. 

 

Artist: Chroma

Roedd noson Wobrau Cerddoriaeth Caerdydd yn cael ei gynnal yn y Tramshed yn Grangetown neithiwr, ac roedd un enillydd cyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Selar.

Cipiodd Chroma, y triawd roc o’r Cymoedd y wobr am yr Artist Newydd Gorau ar y noson, ac roedden nhw’n enillwyr poblogaidd iawn. Byddwch chi’n cofio iddyn nhw gyrraedd rhestr fer yr un categori yng Ngwobrau’r Selar yn gynharach eleni, a pherfformio yn noson Wobrau’r Selar.

Roedden nhw’n chwarae fel rhan o’r noson neithiwr hefyds, ac mae’n debyg eu bod nhw wedi ysgwyd y Tramshed i’w seliau.

Llongyfarchiadau mawr i Chroma felly, a dyma glip Ochr 1 ohonyn nhw’n perfformio yng Ngwobrau’r Selar:

 

Record: Hirddydd Haf – Hergest

Rydan ni wedi crybwyll y ffaith bod Delwyn Sion yn perfformio ym Mhontypridd heno eisoes, felly dyma gyfle i fwrw golwg nôl ar un o’i fandiau, Hergest.

Roedd Hergest gyda’i gilydd rhwng 1971 a 1979, a’r aelodau gwreiddiol oedd Derec Brown, Elgan Ffylip, Geraint Davies a Delwyn Sion, er i’r aelodaeth newid rhywfaint dros y blynyddoedd.

Fe wnaethon nhw ryddhau cwpl o EPs a 4 albwm yn y cyfnod yna, yn ogystal â chyfrannu caneuon at gasgliadau fel Tafodau Tân (recordiad byw o gyngerdd mawr ym Mhafiliwn Corwen adeg Steddfod 1973 - gig cyntaf Edward H Dafis) ac albwm ardderchog Lleisiau a ryddhawyd gan fudiad Adfer.

Union 40 mlynedd yn ôl, ym 1977 fe wnaeth Hergest ryddhau un o’u recordiau amlycaf, sef yr albwm ‘Hirddydd Haf’. Delwyn Sion oedd yn canu cân deitl yr albwm, sy’n dal i gael digon o airplay hyd heddiw.

 

Ac un peth arall...: Ffrydio perfformiad Ffrwydrad Tawel yn fyw

Fe fydd EP newydd Ani Glass, Ffrwydrad Tawel, yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Neb ar 21 Ebrill, gyda chryn edrych ‘mlaen i’r record.

Neithiwr (nos Iau) am 7:00 roedd cyfle arbennig i weld Ani’n gwneud perfformiad arbennig o’r EP yn ei gyfanrwydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan y label.