Search site


Pump i'r Penwythnos 07/04/17

07/04/2017 12:57

Ydy, mae’n ddydd Gwener eto felly amser am ein pigion cerddorol ar gyfer y penwythnos.

Gig: Yws Gwynedd, Fleur de Lys, Mosco – Pontio, Bangor – Gwener 7 Ebrill

Am yr ail wythnos yn olynol mae swp da o gigs i ddewis ohonyn nhw dros y penwythnos.

Mae The Gentle Good ar daith gydag  Ida Wenøe ac yn perfformio yn The Street Eye, Suffolk heno (Gwener) ac yna yn Old Cinema Launderette yn Durham nos fory.

Mae Bob Delyn Bach, sef fersiwn acwstig o Bob Delyn a’r Ebillion yn perfformio yn Sesiwn Nos Wener Tal-y-Bont ger Aberystwyth heno, tra bod Breichiau Hir yn cefnogi False Hope for the Savage yng Nghlwb Ifor Bach hefyd.

Os ydach chi’n y Gogledd Ddwyrain yna gallwch chi ddal Gwibdaith Hen Frân ac Y Gogs yn Saith Seren heno.

Mae ‘na gwpl o wyliau fory, gan gynnwys Gŵyl Cam 17 sy’n digwydd mewn lleoliadau amrywiol yn Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd gyda pherfformiadau gan Llwybr Llaethog, Georgia Ruth, Machynlleth Sound Machine a llawer iawn mwy.

Yna yn Nolgellau mae Gŵyl Gwrw Dolgellau, sydd hefyd yn dyblu fel lansiad Sesiwn Fawr Dolgellau – mae Patrobas, Bwncath, Dave Bradley, Yr Oria ac Alun Cadwaladr ymysg y perfformwyr.

Ond amhosib anwybyddu gig lansio albwm newydd Yws Gwynedd yng Nghanolfan Pontio ym Mangor heno sydd heb os yn mynd i fod yn glamp o noson gyda Mosco a Fleur de Lys yn cefnogi Yws.

 

Cân: ‘Llechan Lân’ – Gwilym

Nos Fercher ar raglen Lisa Gwilym fe gyhoeddwyd enwau’r artistiaid fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Y chwech sydd wedi cyrraedd y ffeinal ydy Alffa, Eadyth, Gwilym, Jack Ellis, Mabli Tudur a Mosco.

Mae’r Selar wedi bod yn cadw golwg ar nifer o’r rhain ers peth amser ac wedi rhoi sylw i rai ohonyn nhw yn Pump i’r Penwythnos dros yr wythnosau diwethaf.

Un artist sydd heb gael sylw ganddom ni, ond sydd wedi bod ar y radar ers tipyn ydy Gwilym.

Ifan Pritchard, hogyn ifanc o Ynys Môn ydy Gwilym, ac mae o’n cyfansoddi caneuon pop bachog. Un o’r rheiny ydy ‘Llechan Lân’ sydd eisoes wedi bod yn drac yr wythnos ar Radio Cymru. Tiwn fach hafaidd braf i chi gan bod yr haul wedi penderfynu gwneud ymddangosiad o’r diwedd. 

 

Artist: Bob Delyn a’r Ebillion

Gan bod Bob Delyn Bach...sef fersiwn llai o Bob Delyn a’r Ebillion rydan ni’n tybio... yn perfformio yn Sesiwn Nos Wener Tal Y Bont heno, roedden ni’n credu ei bod yn gyfle da i roi bach o sylw i un o’r grwpiau hynny sy’n cael llawer llai o sylw a chlod na’r hyn maent yn ei haeddu.

Ers i Gorwel Roberts a Twm Morus lanio yn Eisteddfod Casnewydd i bysgio ym 1988, a rhywsut llwyddo i blagio gig gan Gymdeithas yr Iaith yn y Clwb Gwyddelig, maen nhw wedi gwneud cyfraniad pwysig dros ben i gerddoriaeth cyfoes Cymraeg.

Dyma chi grŵp hollol unigryw, sy’n llwyddo i gyfuno sŵn gwerin a dawns mewn ffordd anhygoel. Os nad ydach chi wedi bod i gig Bob Delyn, dydach chi heb fyw.

A dyma fideo hollol boncyrs o un o’u caneuon mwyaf gwallgof, Trên Bach y Sgwarnogod:

 

Record: Croendenau – Steve Eaves

Fe glywsom ni y newyddion trist am farwolaeth yr actor a cherddor Dafydd Dafis yn gynharach yr wythnos hon.

Roedd Dafydd yn gerddor adnabyddus – yn ganwr a sacsoffônydd dawnus. Mae’n siŵr bydd y rhan fwyaf sy’n darllen hwn wedi clywed Tŷ Coz, ei gân mwyaf adnabyddus sy’n cael ei chwarae’n rheolaidd ar donfeddi Radio Cymru.

Er yn artist unigol ardderchog, efallai bod llawer o’i waith gorau wedi digwydd fel aelod o fand Steve Eaves, ac mae Steve wedi talu teyrnged arbennig iddo ar safle Cymru Fyw.

Albwm orau Steve Eaves ydy Croendenau a ryddhawyd ym 1992, ac ar hon mae cyfraniad Dafydd Dafis amlycaf. Mae’r casgliad yn cynnwys casgliad anhygoel o ganeuon – ‘Sanctaidd i Mi’, ‘Noson Arall efo’r Drymiwr’, ‘Rhywbeth Amdani’, ’10,000 Folt Trydan’, ‘Rhai Pobl’, ‘Grymoedd Anweledig’...mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Ac yn ganolog i’r cyfan mae llais, a sacsoffôn arbennig Dafydd Dafis.

Does ‘na ddim caneuon o’r albwm ar-lein i’w rhannu â chi’n anffodus, ond os wnewch chi un peth y penwythnos yma, yna ewch allan a phrynu copi o Croendenau neu focs-set Ffoaduriaid Steve Eaves – wnewch chi ddim difaru.

 

Ac un peth arall...: Deiseb i warchod lleoliadau cerddoriaeth fyw

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed yr hanes am y bygythiad sydd wedi codi i Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd dros yr wythnos diwethaf.

Daeth y newyddion am gais i adeiladu bloc o fflatiau drws nesaf i un o leoliadau gigs enwocaf Cymru ar Stryd Womanby wythnos diwethaf, ac ers hynny mae ymgyrch wedi bod ar droed i roi stop ar y datblygiad ac i amddiffyn y stryd trwy ei sefydlu fel safle o bwys diwylliannol.

Erbyn hyn, mae deiseb wedi’i lansio yn gofyn i’r Llywodraeth fabwysiadu egwyddor o ‘asiant dros newid’ fyddai’n helpu gwarchod canolfannau cerddoriaeth fyw rhag datblygiadau fel hyn.

Mae cerddoriaeth fyw yn hollbwysig i’r sin gerddoriaeth Gymraeg, ac mae prinder lleoliadau da ar gyfer cynnal gigs fel y mae. Er mwyn helpu gwarchod yr ychydig o leoliadau sydd gennym, mae Y Selar yn eich hannog i lofnodi’r ddeiseb yma.