Search site


Pump i'r Penwythnos 20 Ionawr 2016

20/01/2017 16:37

Y diweddaraf yn ein cyfres o argymhellion wythnosol, dyma Bump i’r Penwythnos...

Gig: Candelas, Alys Williams, Henebion – Clwb Rygbi Machynlleth. Gwener 20 Ionawr

Yn dref sy’n cael ei chysylltu’n fwy â chomedi, diolch i’r ŵyl gomedi flynyddol hynod o lwyddiannus a gynhelir yno, mae Machynlleth yn ddiweddar wedi dod yn ‘chydig o gyrchfan ar gyfer cerddoriaeth.

Mae hynny’n rhannol diolch i’r grŵp ifanc Henebion, sy’n mynd o nerth i nerth ers i’r Selar ddod ar eu traws nhw gyntaf yn yr olaf o’n cyfres o gigs ‘O’r Selar’ yn Aberystwyth ddiwedd 2014. Fe wnaethon nhw ryddhau’r Sengl Selar ardderchog ‘Mwg Bore Drwg’ ym mis Mawrth 2015 – trac a gynhyrchwyd gan Ifan Jones o Candelas, ac maen nhw hefyd wedi gweithio’n agos gyda’r grŵp o Lanuwchllyn ers hynny.

Addas felly bod Henebion yn cefnogi Candelas mewn gig da iawn yr olwg yng Nghlwb Rygbi Mach heno. Cyfle da i ddal yr hyfryd Alys Williams yn ogystal.

Mae gig 4 a 6 yng Nghaernarfon heno gyda Meic Stevens a Bethany Celyn yn haeddu mensh hefyd.

Cân: ‘Pan Na Fyddai’n Llon’ – Yr Eira

Roedd ‘na awgrym cryf yn ystod yr wythnos bod Yr Eira wrthi’n recordio...wel, os ydach chi’n ystyried trydar fideo ohonyn nhw’n y stwdio’n awgrym digon cryf!

Yn gweithio ar albwm os ydy’r trydar i’w gredu – rhywbeth i edrych mlaen ato yn 2017 gyda lwc!

Esgus da i roi sylw i drac Yr Eira oedd ar gasgliad 5 gan I Ka Ching a ryddhawyd llynedd felly. Cofiwch bod traciau’r casgliad i gyd i’w clywed ar Soundcloud I Ka Ching erbyn hyn.

Dyma ‘Pan Na Fyddai’n Llon’

Artist: Alys Williams

Fel y soniwyd eisoes, mae Alys Williams yn gigio ym Machynlleth y penwythnos yma, ac rydan ni’n disgwyl clywed tipyn gan y gantores o Gaernarfon yn ystod 2017.

Mae hi bellach wedi ffurfio band ar gyfer perfformio’n fyw, ac rydan ni’n mawr obeithio y byddwn ni’n ei gweld hi’n rhyddhau cynnyrch yn ystod y flwyddyn.

Hyd yma, does ‘na ddim traciau ar ei safle Soundcloud, ond mae’n werth i chi ddechrau ei dilyn rhag ofn y gwelwn ni rywbeth yn fuan.

Wedi dweud hynny, os dyrchwch chi’n ddyfnach ar Soundcloud rydach chi’n debygol o ddod ar draws ei llais ar y glasur electroneg, ‘Celwydd’, gan Ifan Dafydd a ryddhawyd ar Y Record Las yn 2013. Saff dweud bod y trac wedi mynd yn ‘feiral’ bryd hynny, ac mae wedi ei chlywed 317,000 o weithiau bellach yn ôl yr ystadegau ar Soundcloud. 

Record: Yr Atal Genhedlaeth – Gruff Rhys

Wythnos nesaf bydd Gruff Rhys yn cynnal cyfres o gyngherddau’n perfformio ei sgôr ar gyfer y ffilm Set Fire to the Stars a ryddhawyd nôl yn 2014.

Mae’n chwarae yn Glasgow, Manceinion, Llundain a hefyd yn y New Theatre yng Nghaerdydd nos Sadwrn nesaf.

Mae safle Soundcloud Gruff Rhys yn cynnwys  traciau’r casgliad sy’n cyd-fynd â’r ffilm, yn ogystal â holl draciau albwm unigol cyntaf Gruff, Yr Atal Genhedlaeth, a ryddhawyd gymaint â 12 mlynedd yn ôl yn 2005!

Un o ganeuon gorau’r casgliad ydy ‘Ambell Waith’:

Ac un peth arall...: Cerdd Iestyn Tyne i Geraint Jarman

Newyddion mawr Y Selar wythnos diwethaf oedd y cyhoeddiad y bydd Geraint Jarman yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni, ac yn perfformio mewn gig arbennig ym Mhantycelyn ar nos Wener Gwobrau’r Selar, 17 Chwefror.

Bardd y mis Radio Cymru ar hyn o bryd ydy Iestyn Tyne, sydd hefyd yn gerddor digon dawnus ac yn aelod o Patrobas.

Nos Fercher ar raglen Lisa Gwilym, fe gyflwynodd Iestyn gerdd arbennig yn deyrnged i Jarman...