Search site


Pump i'r Penwythnos - 3 Mawrth 2017

03/03/2017 14:58

Pwy sydd angen ffics cerddorol ar gyfer eu penwythnos? Wel, yn ffodus iawn mae’r Selar yma at eich gwasanaeth...

Gig:– Candelas, Band Pres Llareggub, Yr Eira, Chwalfa – Gig Steddfod Rhyng-gol @ Pontio, Bangor – Sadwrn 4 Mawrth

Fel arfer y Ddawns Rhyng-golegol flynyddol yn Aberystwyth ym mis Tachwedd sy’n llwyfannu llwyth o fandiau gwych i gael eu hanwybyddu gan stiwdants meddwl (jôôôôc), ond mae ‘na stoncar o lein-yp ar gyfer y gig sy’n dilyn y Steddfod Rhyng-gol nos Sadwrn.

Mae’r Eisteddfod yn symud o un Brifysgol i’r llall...yn wahanol i’r Ddawns, sy’n Aber bob blwyddyn – unrhyw un yn gwybod pam fod hynny? Na, bach o ddirgelwch...ta waeth! Ym Mangor mae’r Eisteddfod Rhyng-gol eleni, ac mae’r gig yn cael ei gynnal yn Theatr Bryn Terfel yng Nghanolfan Pontio.

Candelas ydy’r prif atyniad, gyda Band Pres Llareggub, Yr Eira a’r hogia’ lleol Chwalfa yn cefnogi – ddudon ni fod o’n dipyn o lein-yp do!

Cân: ‘Smocio yn yr Haul’ – Pasta Hull

Rydan ni wedi bod yn chwilio am gyfle i gyflwyno trac gan Pasta Hull ers peth amser, ac o’r diwedd dyma wneud hynny.

Mae’r grŵp o Gaernarfon wedi bod o gwmpas ers peth amser, gan gigio tipyn yn ardal Bangor a Chaernarfon a rhoi ambell drac ar eu Soundcloud nawr ac yn man.

Rydan ni’n hoffi sŵn ffynci y trac diweddaraf i ymddangos ganddyn nhw, ‘Smocio yn yr Haul’, ac mae’n swnio ychydig fel plentyn siawns Gogz / The Heights a Sen Segur...neu rywbeth felly. Mwynhewch...

Artist: Casi

Cyn hyn roedden ni’n fwy cyfarwydd â hi dan yr enw Casi Wyn, ond mae’r gantores o Fethel wedi bod trwy broses o ail-frandio ers ymuno â label Chess Club...ac maen nhw wedi setlo ar jyst ‘Casi’.

Mae wedi bod yn wythnos dda i Casi, wrth iddi ryddhau ei sengl ddiweddaraf ‘The Beast’ yr wythnos hon – ac mae’n glamp o diwn epic fel y byddech chi’n disgwyl.

Mae’r gân wedi cael ymateb ffafriol iawn ar wefannau cerddorol amlwg fel The Best Line of Fit, a Clash Music a does dim amheuaeth yn ein meddwl ni bod Casi ar fin dal sylw cynulleidfa eang iawn.

Os nad ydy hynny’n ddigon, cyhoeddwyd yn ystod yr wythnos bod Casi yn un o’r chwech artist sydd wedi eu dewis gan BBC Introducing fydd yn perfformio ar eu llwyfan showcês yng ngŵyl enfawr South By Southwest yn Austin Texas. Bydd yn rhannu llwyfan gyda grwpiau fel Idles, The Japanese House a dyn y foment, Rag ‘n’ Bone Man.

Dyma’r trac gwych gan Casi oedd ar gasgliad O’r Nyth, ‘Hardd’:

Record: Fel Tôn Gron – Y Bandana

Ydi, mae Gwobrau’r Selar wedi bod ers pythefnos bellach, ond roedden ni’n meddwl ei bod yn briodol i fwrw golwg nôl am eiliad a rhoi sylw i’r record enillodd ddwy wobr ar y noson sef Fel Tôn Gron gan Y Bandana.

Cipiodd albwm olaf Y Bandana wobrau ‘Record Hir Orau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’ Gwobrau’r Selar eleni, ac roedd yr hogia’n arbennig o falch o deitl y ‘Record Hir Orau’ gan mai dyma’r unig wobr gymwys nad oedden nhw wedi ennill o’r blaen.

Mae’n siŵr mai hon ydy record orau Y Bandana, ac mae’r gwaith celf yn ddigon unigryw hefyd. Dyma eitem Ochr 1 yn egluro’r hanes...

Ac un peth arall...: Mensh gan DJ Bry

O’r diwedd, mae’r Selar wedi cyrraedd y brig! Ydan, rydan ni wedi gael mensh gan yr enwog DJ Bry o’r diwedd wrth iddo gyhoeddi eitem arbennig am Wobrau’r Selar. Mae ganddo fo ambell bwynt da er tegwch, ac mi wnaethon ni fwynhau’r darn gymaint nes bod rhaid ei rannu gyda chi Ponis.