Search site


Rhestrau byr olaf a chyflwynydd Gwobrau’r Selar

15/02/2017 21:06

Mae dwy restr fer olaf Gwobrau’r Selar eleni wedi eu cyhoeddi, yn ogystal â chyflwynydd y digwyddiad yn Aberystwyth nos Sadwrn.

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi mai Elan Evans fydd yn cyflwyno’r Gwobrau eleni.

Bydd Elan yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Daeth i’r amlwg yn gyntaf fel un o’r ddeuawd DJs Elan a Mari sy’n gigio’n rheolaidd yn nosweithiau Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd.

Dros yr hydref bu Elan yn un o gyflwynwyr rheolaidd gwasanaeth Radio Cymru Mwy, fu’n darlledu ar-lein, ac mae hefyd wedi bod yn cyflwyno nosweithiau Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rhestrau Byr

Dros y chwe wythnos diwethaf mae rhestrau byr Gwobrau’r Selar wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar nosweithiau Mercher, a hynny ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru, ac ar dudalen Facebook Ochr 1.

Y ddau gategori olaf i’w cyhoeddi oedd ‘Artist Unigol Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’, a cafodd y rhestrau byr eu rhyddhau heno.

Y tri sydd wedi dod i frig pleidlais ‘Artist Unigol’ y tro hwn ydy Gwilym Bowen Rhys, Alys Williams ac enillydd y wobr y ddwy flynedd ddiwethaf, Yws Gwynedd.

Mae categori ‘Gwaith Celf Gorau’ yn un cynyddol ddiddorol wrth i artistiaid roi mwy a mwy o bwyslais ar gloriau eu recordiau er mwyn ychwanegu gwerth i gerddoriaeth sydd ar gael yn ddigidol hefyd.

Y tri clawr sydd wedi creu’r mwyaf o argraff ar bleidleiswyr Gwobrau’r Selar yn 2016 ydy albwm aml-gyfrannog 5 i ddathlu pum mlwyddiant label I Ka Ching; albwm diweddaraf Cowbois Rhos Botwnnog, IV; a record olaf Y Bandana am byth bythoedd amen, Fel  Tôn Gron.

Bydd enillwyr y categorïau yma, a’r gweddill yn cael eu datgelu yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn yma – mae rhai tocynnau ar ôl ar hyn o bryd, ond yn mynd yn brin!

 

Dyma’r rhestrau byr llawn:

Cân Orau

Gweld y Byd Mewn Lliw – Band Pres Llareggub

Cyn i’r Lle Ma Gau – Y Bandana

Canfed Rhan - Candelas

 

Gwaith Celf Gorau

Fel Tôn Gron – Y Bandana

5 – I Ka Ching

IV – Cowbois Rhos Botwnnog

 

Hyrwyddwyr Gorau

Clwb Ifor Bach

Maes B

4 a 6

 

Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau

Tudur Owen

Huw Stephens

Lisa Gwilym

 

Artist Unigol Gorau

Yws Gwynedd

Gwilym Bowen Rhys

Alys Williams

 

Digwyddiad Byw Gorau

Maes B – Eisteddfod Y Fenni

Gig Olaf Y Bandana

Gig y Pafiliwn – Eisteddfod Y Fenni

 

Band neu Artist Newydd Gorau

Chroma

Ffracas

Magi Tudur

 

Band Gorau

Candelas

Sŵnami

Y Bandana

 

Offerynnwr Gorau

Merin Lleu

Osian Williams

Gwilym Bowen Rhys

 

Fideo Cerddoriaeth Gorau

Sgrin – Yws Gwynedd

Bing Bong – Super Furry Animals

Suddo – Yr Eira

 

Record Hir Orau

IV – Cowbois Rhos Botwnnog

Fel Tôn Gron – Y Bandana

Kurn – Band Pres Llareggub

 

Record Fer Orau

Tân – Calfari

Niwl – Ffracas

Propeller – Cpt Smith