Search site


Rhifyn newydd Selar i Steddfod Y Fenni

30/07/2016 20:40

Mae rhifyn newydd sbon danlli o'r Selar allan jyst mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni. 

Diolch i ymdrechion y tîm pêl-droed cenedlaethol, a theithiau y tîm golygyddol i Ffrainc o'r herwydd, mae'r rhifyn yma wedi bod yn her...ond rydan ni'n hapus iawn gyda'r rhifyn, ac yn gobeithio bydd y darllenwyr hefyd. 

Yr eicon cerddorol, Geraint Jarman, sydd ar glawr y rhifyn ac mae Owain Gruffudd wedi paratoi cyfweliad dadlennol gydag un o ffigyrrau pwysicaf cerddoriaeth Gymraeg dros y 40 mlynedd diwethaf. 

Mae'r rhifyn hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda Band Pres Llareggub am eu halbwm newydd, Kurn a'r grŵp ifanc o Lanrug, Alffa sy'n cael sylw 'Ti di clywed...'

Gan ei bod hi'n Steddfod rydan ni'n rhoi sylw arbennig i'r artistiaid sydd wedi cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau ar faes yr Eisteddfod, ac mae'r rhifyn yn cynnwys colofnau a digon o adolygiadau yn ôl yr arfer.

Bydd modd i chi fachu copi o'r rhifyn newydd ar faes yr Eisteddfod Gendlaethol yn Y Fenni yr wythnos hon, ac o'r mannau dosbarthu arferol. Os na allwch chi aros i gael gafael ar gopi caled, yna gallwch bori'r rhifyn digidol sydd bellach arlein

Mwynhewch...