Search site


Rhyddhau Sengl gyntaf Adwaith

25/10/2016 21:30

Mae ‘na grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, wedi bod ar radar Y Selar ers peth amser, ac yr wythnos hon maen nhw wedi rhyddhau eu sengl gyntaf.

Label newydd Recordiau Decidedly sy’n rhyddhau ‘Pwysau’ a dyma ydy ail sengl y label yn dilyn ‘Tywod’ gan Argrph a ryddhawyd rhyw bythefnos yn ôl.

Yn yr un modd â ‘Tywod’, mae sengl newydd Adwaith ar gael i’w lawr lwytho am ddim ar Soundcloud Decidedly nawr.

 

Wnawn ni ddim sôn gormod am Adwaith gan mai nhw sy’n cael sylw eitem ‘Ti Di Clywed...’ yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan fis Tachwedd, ond digon yw dweud bod y sengl yn ddigon i roi blas o’u sŵn ôl-werin ffresh sy’n cynnig rhywbeth bach gwahanol ar hyn o bryd.

Gwdihŵs ac ystlumod

Bu’r Selar yn sgwrsio â Gwenllian Anthony sy’n chwarae bas a mandolin i’r grŵp neithiwr gan holi sut maen nhw’n teimlo i ryddhau eu sengl cyntaf.

“Ni gyd mooor falch i ryddhau’r sengl ma” meddai Gwenllian.

“Yn enwedig achos yr holl gefnogaeth sydd wedi bod. Amser yma blwyddyn d’wetha  o’n ni heb chwarae ein gig cynta’ ni, a nawr ni di gweithio ‘da Pat o Datblygu a rhyddhau sengl. Ma fe’n wyllt!”

Dros yr haf bu genod Adwaith yn gweithio gyda Patricia Morgan o'r grŵp arloesol, Datblygu, er mwyn paratoi demos a datblygu eu sain. Ffrwyth y llafur hwnnw ydy ‘Pwysau’.

Recordiwyd y sengl yn Long Wave Studios yng Nghaerdydd gyda Steffan Pringle, a Charlie Francis yn ymgymryd â’r gwaith mastro.

Roedd lansiad y sengl, ynghyd ag un Adwaith, yn y Gwdihŵ yng Nghaerdydd nos Fawrth diwethaf (18 Hydref) mewn gig sydd y gyntaf o nifer i’w llwyfannu yno gan Decidedly.

“Odd y gig yn hynod o dda” meddai Gwenllian yn gyffrous wrth drafod y noson.

“Odd y turnout yn wych. Yn anffodus doedd Chelsea [sy’n canu yn y grŵp] ddim ‘da ni, ond oedd e’n gyfle gwych i hybu’r sengl a’r albwm ‘Hope Not Hate’ hefyd.”

Cyfeirio mae Gwenllian at yr albwm aml-gyfrannog sy’n cael ei ryddhau i godi arian ac ymwybyddiaeth i  ymgyrch gwerth chweil ‘Hope Not Hate’. Mae’r albwm yn cynnwys 95 o ganeuon gan artistiaid amrywiol sy’n cynnwys Cpt Smith, HMS Morris, Ani Glass, Aled Rheon, Yr Ods a llawer iawn o enwau cyfarwydd eraill.

Roedd rhaid gofyn i Gwenllian sut fyddai’r grŵp yn dathlu rhyddhau eu sengl gyntaf...

“Wel, gobeithio tro nesa’ ni’n cwrdd ewn ni mas am fwyd a falle cal sleepover yn ysgubor Heledd.Wel, trial cael sleepover....tro d’wetha trio’n ni ‘na nath ystlum ymosod arnom ni yng nghanol y nos!”

 Wrth gwrs, does dim ofn ystlumod arnom ni o gwbl – mae’r Selar yn llawn ohonyn nhw, ond ystlumod neu beidio mae alawon swynol Adwaith yn siŵr o’ch suo i gysgu’n braf.

Cofiwch fachu copi o rifyn newydd Y Selar mewn cwpl o wythnosau i ddysgu mwy am Adwaith.