Search site


Rhyddhau sengl gyntaf Gwilym

16/08/2017 21:49

Mae’r band ifanc newydd o Fôn ac Arfon, Gwilym, wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf ar ffurf y sengl ‘Llyfr Gwag’.

Y bwriad gwreiddiol oedd rhyddhau’r gân newydd erbyn y Steddfod, oedd yn eu gardd gefn eleni wrth gwrs, ond fe gymerodd nes heddiw (16 Awst) iddi ymddangos ar Soundcloud a Youtube.

Roedd y broses cyn hynny’n un gyflym wrth i’r gân gael ei hysgrifennu, a’i recordio yn y bythefnos yn arwain at yr Eisteddfod.

Gellir maddau i’r grŵp ifanc am fethu â rhyddhau’r sengl cyn y Steddfod gan bod ganddyn nhw wythnos fawr ym Modedern wythnos diwethaf. Roedden nhw’n un o’r chwe grŵp oedd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau ddydd Mercher diwethaf, ac fe grëwyd gryn argraff ar y beirniaid wrth iddyn nhw ddod yn ail i Alffa yn y ffeinal.

Fe wnaethon nhw hefyd greu argraff gyda’i sticeri trawiadol oedd i’w gweld mewn llefydd amrywiol ledled y maes.

EP ar y ffordd

Recordiwyd y sengl gyda Callum Lloyd Williams yn stiwdio New Street, ac nid ‘Llyfr Gwag’ oedd unig ffrwyth llafur y cyfnod yn y stiwdio, gydag addewid o fwy o gynnyrch gan y grŵp ifanc yn fuan iawn. Yn ôl Gwilym maen nhw’n gobeithio rhyddhau EP yn fuan, mwy na thebyg erbyn y Nadolig.

“Parhau i greu enw, gigio a chyfansoddi ydy’r bwriad yr haf yma” yn ôl y band.

Aelodau Gwilym ydy Ifan (llais a gitâr rhythm) o Bontrhydybont ger Caergybi, Rhys (gitâr flaen) o Fethel ger Caernarfon, Llŷr (drymiau) o Langristiolus ger Llangefni) a Llew (gitâr fas) sy’n dod o’r Felinheli.

Mae’r grŵp yn disgrifio eu sŵn fel un ‘hafaidd, indie, ysgafndrwm, gweithgar a jazzy’. Maent yn rhestru Ysgol Sul, Geraint Jarman, Maffia Mr Huws a Ffa Coffi Pawb ymysg eu prif ddylanwadau. Gallwch ddarllen mwy amdanyn nhw yn ein cyflwyniad i grwpiau Brwydr y Bandiau yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

Os ydy ‘Llyfr Gwag’ yn arwydd o’r hyn sydd i ddod yna mae’n werth cadw golwg ar Gwilym dros y misoedd nesaf.