Search site


Sws Olaf ond record gyntaf

14/04/2017 21:40

Ar benwythnos y Pasg bydd EP cyntaf prosiect newydd tri o enwau pwysicaf, ac mwyaf arloesol, cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei ryddhau.

Mae Messrs yn gweld John Griffiths, Mark Roberts a David R. Edwards yn cydweithio – y tri wedi gwneud cyfraniad enfawr i gerddoriaeth Gymraeg ers dechrau’r wythdegau gyda’u grwpiau Llwybr Llaethog, Y Cyrff, Catatonia a Datblygu.

Bu Mark a’i gyd-aelod Y Cyrff/Catatonia/Y Ffyrc, Paul Jones, yn cydweithio gyda John a Kevs Ford o Llwybr Llaethog rai blynyddoedd nôl gyda’r grŵp Sherbert Antlers. Mae Dave hefyd wedi cyfrannu at ambell drac Llwybr Llaethog, yn ogystal ag ymddangos ar lwyfannau byw gyda nhw yn y gorffennol, ond mae’r EP, Sws Olaf, yn nodi’r tro cyntaf i’r tri gydweithio ar brosiect fel hyn gyda’i gilydd.

Roedd Y Selar ar dân i ddysgu sut ddaeth y tri eicon cerddorol yma ynghyd i ffurfio grŵp newydd, ac roedden ni’n ddigon ffodus i allu cael gafael ar Mark Roberts i holi mwy.

“Roeddwn i draw yn nhŷ John un noson tua dwy flynedd yn ôl, a digwydd bod roedd Dave yna hefyd” meddai Mark wrth Y Selar.

“Roeddem yn cymeryd turns i roi tiwns ‘mlaen a ddaru Dave rhoi rwbath gan Frank Sinatra ymlaen. Canodd o efo Frank a nes i feddwl ‘waw! Dwi heb glywed Dave yn canu, bron croonio, ers blynyddoedd.”

“Ar y pryd roedd gen i ychydig o gerddoriaeth ‘Gwasanaeth Lles’ [un o draciau’r EP] wedi'i ysgrifennu yn barod, felly nes i yrru copi draw i Dave a ddoth llythyr yn ôl cwpwl o ddyddiau wedyn gyda'r geiriau. A felly ddaru ni gario mlaen o fano.”

Sŵn trawiadol

Mae ôl-gatalog aelodau Messrs yn hirfaith, ac yn cynnwys rhai o anthemau mwyaf yr iaith Gymraeg...ac ambell diwn yn adnabyddus dros y byd i gyd - mae 19 mlynedd ers i Mark gyrraedd brig siart albyms Prydain gydag International Velvet a ryddhawyd yn Chwefror 1998. Cyrhaeddodd dau o senglau’r albwm hwnnw, ‘Mulder a Scully’ a ‘Road Rage’ 10 uchaf siart y senglau.

Amser a ddengys a fydd rhai o draciau y prosiect newydd yn creu y fath argraff, ond i ba raddau mae’r caneuon yn adlewyrchu gwaith blaenorol yr aelodau?

“Anodd deud rili. Dwi ddim yn gallu clywed lot o sŵn y grwpiau oeddan ni ynddo nhw cynt yn dod drwodd” meddai Mark.

“Mae sŵn Messrs yn anodd ei ddisgrifio ond yn  bendant yn drawiadol ac under produced.”

Wedi’i dan gynhyrchu neu beidio, mae’r tri yn hen gyfarwydd a threulio amser yn gweithio ar eu cerddoriaeth yn y stiwdio, felly beth oedd y broses gydag EP Sws Olaf?

“Nath y rhan fwyaf gael ei wneud yn stiwdio Llwybr Llaethog, ac yn stiwdio fi” eglura Mark.

“Ond ddaru ni fynd a laptop draw i Gaerfyrddin i recordio Dave yn canu.”

Yng Ngŵyl Psylence yng nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, cyhoeddodd Dave mai y perfformiad hwnnw fyddai gig byw olaf Datblygu.

Gobeithio na fydd hynny’n wir, ond gyda’r prosiect newydd hwn ar y gweill, mae’n ddigon posib bod ei ffocws wedi symud am ychydig o leiaf.

Beth ydy’r gobeithion o weld Messrs yn perfformio ar lwyfannau byw yn y dyfodol agos felly? Gwrthod cadarnhau y naill ffordd neu’r llall oedd Mark am y tro...
“Does dim cynlluniau ar hyn o bryd, ond mae cynigion yn dechrau rolio mewn felly mae wastad siawns.”

Hawdd credu bod digon o gynigion ar y bwrdd i’r triawd, a byddai criw Y Selar yn sicr yn hoffi gweld sut beth fyddai set byw gan y prosiect newydd cyffrous yma.