Mae asiantaeth Turnstile wedi cyhoedd bod Lleuwen yn dychwelyd o Lydaw ar gyfer taith fer yng Nghymru ym mis Mawrth 2018.
Bydd y gig cyntaf o’r daith yn Galeri Caernarfon ar 1 Mawrth, gyda Gwilym Bowen Rhys yn cefnogi, a bydd y gantores hefyd yn ymweld â Chaerdydd, Llanymddyfri ac Aberystwyth.
Daeth hefyd y newyddion gan Recordiau Sain bod Lleuwen ar fin recordio albwm newydd yn stiwdio Sain, Llandwrog.
Dyma ddyddiadau llawn taith fer Lleuwen:
- 1 Mawrth - Galeri, Caernarfon (gyda Gwilym Bowen Rhys)
- 2 Mawrth - Acapela, Pentyrch, Caerdydd (gyda Blodau Gwylltion)
- 3 Mawrth - Neuadd Pantycelyn, Llanymddyfri (Cyngerdd Dathlu Cân Pantycelyn)
- 4 Mawrth - Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth (gyda Blodau Gwylltion)
Dyma fideo o ddeuawd hyfryd Lleuwen gyda Gwilym Morus ar Bandit rai blynyddoedd nôl: