Search site


Yws Gwynedd: albwm newydd yn barod erbyn gig lansio

22/03/2017 17:00

Mae Yws Gwynedd wedi cadarnhau wrth Y Selar ei fod yn disgwyl y bydd copïau o’i albwm newydd ar gael mewn pryd ar gyfer y gig lansio yng nghanolfan Pontio, Bangor ar 7 Ebrill.

Os ydych chi wedi darllen cyfweliad Yws yn rhifyn diweddaraf Y Selar, byddwch wedi sylwi ar fymryn o amwysedd ganddo ynglŷn â sicrhau bod yr albwm yn barod erbyn y gig, yn enwedig gan nad oedd y broses recordio wedi gorffen pan oedd yn siarad â’n gohebydd, Lois Gwenllian.

Ond, fe wnaethom ni roi sylw i’r ffaith bod yr albwm ar gael i’w rag-archebu yn Pump i’r Penwythnos wythnos diwethaf, ac o sgwrsio mwy ag Yws ers hynny, mae wedi cadarnhau bod popeth wedi gorffen a’r record wrthi’n cael ei dyblygu ar hyn o bryd.

“Mae pob dim yn mynd off heddiw (ddydd Gwener diwethaf) ac mae ganddyn nhw tunaround 7-10 diwrnod, felly gyn lleied a bod ‘na ddim byd mawr yn mynd o’i le fydd pob dim ar gael yn Pontio” meddai Yws wrth Y Selar.

Bydd yr albwm yn cynnwys dwy sengl sydd eisoes wedi’u rhyddhau, sef ‘Sgrîn’ ac ‘Anrheoli’, sy’n rhannu enw’r albwm.

“Yr unig beth arall fydd yn gyfarwydd ydy bod ‘na fersiwn newydd o’r sengl ‘Dy Anadl Di’ sef ‘Dy Anadl Dau’” ychwanega Yws.

Mae modd gweld y rhestr traciau llawn ar safle rhag archebu Anrheoli.

Mae’r cyfweliad yn rhifyn diweddaraf Y Selar yn rhoi tipyn o sylw i gyfnod Yws a’i fand yn cyfansoddi a recordio demos yn stiwdio Bing, ond cafodd y caneuon terfynol eu recordio yn Stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth, sef stiwdio Rich Robers, drymiwr y band.

Bydd y gig lansio’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar nos Sadwrn 7 Ebrill gyda Fleur de Lys a Mosco yn cefnogi Yws ar y noson.